Rig Veda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: te:ఋగ్వేదం
B iaith
Llinell 1:
[[ImageDelwedd:Rigveda MS2097.jpg|250px|bawd|Testun Sansgrit y Rig Veda mewn llyfr a ysgrifenwydysgrifennwyd ddechrau'r 19eg ganrif]]
Casgliad hynafol [[India]]idd o [[emyn]]au [[Veda|Vedig]] yn yr iaith [[Sansgrit]] a gysegrir i'r duwiau (''[[deva]]u'') yw'r '''Rig Veda''' neu '''Rigveda''' ([[Sansgrit]]: ऋग्वेद ''Rigveda'', cyfansoddair o'r gair ''rig'' "mawl, cerdd" a ''veda'' "gwybodaeth"). Fe'i ystyrirhystyrir yn un o'r pedwar testun sanctaidd canonaidd (''śruti'') yn [[Hindŵaeth]] a adnabyddir fel y [[Veda]]. Hyd heddiw mae rhai o'r cerddi yn cael yn cael eu hadrodd fel [[gweddi|gweddïau]] Hindŵaidd, mewn gwasanaethau crefyddol ac ar achlysuron arbennig, ac felly mae'n cyfrif fel un o'r hynaf o destunau crefyddol y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.
 
Yn ogystal mae'n un o'r testunau hynaf mewn unrhyw [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|iaith Indo-Ewropeaidd]], er bod arbenigwyr yn anghytuno am ei oed. Mae'r dystiolaeth ieithyddol ac ieithegol yn awgrymu y cafodd y Rig Veda ei gyfansoddi yn ardal y [[Sapta Sindhu]] (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y [[Punjab]] ym [[Pakistan|Mhakistan]] a gogledd-orllewin [[India]], tua 1500–1000 CC (y Cyfnod Vedig Cynnar). Ceir sawl cyfatebiaeth ieithyddol a diwylliannol gyda'r [[Avesta]] [[Iran]]aidd cynnar, cyfatebiaethau sy'n deillio o'r cyfnod Proto-Indo-Iranaidd, a gysylltir gan rai â'r diwylliant [[Andronovo]] o tua 2000 CC. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod cysylltiad rhwng y Rig Veda a [[Gwareiddiad Dyffryn Indus]] hefyd.
 
===Cynnwys===
Rhennir y gwaith yn ddeg ''[[mandala]]'' neu adran. Ceir 1017 neu 1028 o emynau, gan ddibynnu ar y casgliad. Mae rhai o'r ''mandalas'' ac emynau hyn yn cael eu priodoli i ddoethion traddodiadol (''[[rishi]]s'') ac eraill yn gysegredig i rai o brif dduwiau'r pantheon Vedig, yn enwedig [[Indra]] sy'n lladd ei wrthwynebydd drygionus [[Vrtra]], [[Agni]] (y tâmtân sanctaidd) a [[Vayu]] neu Vata (y Gwynt). Ceir cryn pwyslaisbwyslais ar ''[[soma]]'' hefyd, yr hylif a phlanhigyn sy'n ganolog i addoliad Vedig. Cyfeirir hefyd at sawl dduw neu dduwies arall fel yr [[Adityas]], [[Mitra-Varuna]], [[Ushas]] (y Wawr), [[Savitri]], [[Vishnu]], [[Rudra]], [[Pushan]], a'r doethwr [[Brihaspati]] neu Brahmanaspati. Duwiolir sawl ffenomen naturiol fel [[Dyaus Pita]] (duw'r Awyr, sy'n cyfateb i [[Zeus|Zeus Pater]] y [[Groeg]]iaid gynt), [[Prithivi]] (Duwies y Ddaear), [[Surya]] (duw'r Haul), Vayu (y gwynt), [[Apas]] (y dyfroedd), [[Parjanya]] (mellt a tharannautharanau), a sawl afon (yn enwedig y ''Sapta Sindhu'' ac [[Afon Sarasvati]]).
 
Ceir cyfeiriadau at ddigwyddiadau a allai fod yn hanesyddol hefyd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymryson a brwydro rhwng y pobloeddbobloedd Indo-Ewropeaidd a gyfansoddodd y Vedas (yr ArianiaidAriannaid Vedig, sy'n perthyn i'r pobloeddbobloedd [[Indo-Ariaidd]] a'u gelynion, y [[Dasa]] neu Dasyu brodorol.
 
Mae'r Rig Veda ei hun yn perthyn i gasgliad ehangach o destunadestunau a elwir y Veda. Y prif Veda eraill yw'r ''[[Sama Veda]]'', y ''[[Yajur Veda]]'' a'r ''[[Atharva Veda]]''. Yn ogystal ceir testunau sy'n deillio o'r gweithiau hyn neu'n dibynnu arnynt, megis rhai o'r ''[[Brahmana]]s''.
 
===Cyfieithiadau===
Cyfieithwyd y Rig Veda, neu ddarnau ohono, i sawl iaith, ond nid oes cyfieithiad Cymraeg eto. Yn India ceir cyfieithiadau neu fersiynau [[Hindi]]. Y cyfieithiad clasurol yn Saesneg yw'r un gan [[Ralph Thomas Hotchkin Griffith|Ralph T. H. Griffith]], ysgolhaig dwyreiniol o dras Gymreig, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1889-92:
* Ralph T. H. Griffith (gol.), ''Hymns of the Rigveda'' (Llundain, 1889-92). AdargraffwyddAdargraffwyd mewn dwy gyfrol gan Munshiram Manohorlal, Delhi, 1999.
 
 
[[Categori:Mytholeg Hindŵaidd]]