Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: cs:Novokřtěnectví
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 18:
Cafwyd rhywfaint o seibiant ym 1672, pan gyhoeddodd Siarl II ei Ddatganiad yn cynnig rhyddid i Ymneilltuwyr addoli ar yr amod eu bod yn cofrestru eu mannau cynnull ac yn sicrhau trwyddedau i’w pregethwyr. Blwyddyn yn unig y parodd yr egwyl hon, a pharhau wnaeth yr erlid tan ddiwedd y 1680au.
 
Yr oedd yr eglwysi Annibynnol yn dal ati i addoli er gwaethaf pob rhwystr, a chefnogwyd y cynulleidfaoedd gan arweinwyr mentrus a dygn. Yr oedd [[Stephen Hughes]] yn weithgar yr ardal rhwng Abertawe a [[Pencader|Phencader]], yn ogystal â [[Henry Maurice]] ym Mrycheiniog a [[Hugh Owen (pregethwr)|Hugh Owen]] ym [[Meirionnydd]]. Erbyn 1675, yr oedd deuddeg eglwys Annibynnol yng Nghymru. Eglwysi canghennog oedd amryw ohonynt, ac felly, mewn gwirionedd, roedd llawer mwy na dwsin o gynulleidfaoedd yn ymgynnull i addoli.
 
Ym 1689, daeth rhywfaint o ryddhad i’r Ymneilltuwyr. Buont yn gefnogol i’r ymgyrch i ddod â [[William, Tywysog Orange]], i Loegr i gymryd lle ei dad-yng-nghyfraith ac olynydd Siarl II, y brenin [[Iago II o Loegr|Iago II]]. Coronwyd William ym 1688, a gwobrwywyd yr Ymneilltuwyr am eu cefnogaeth gyda [[Deddf Goddefiad]]. Dan y ddeddf honno, rhoddwyd [[rhyddid cydwybod]] i’r Ymneilltuwyr ar yr amod iddynt ddatgan eu cydsyniad â [[diwinyddiaeth]] Eglwys Loegr, cofrestru eu mannau addoli a sicrhau trwyddedau i’w pregethwyr. Ond er gwaethaf y tamaid rhyddid a roddai’r Ddeddf Goddefiad iddynt, cawsant eu trin fel dinesyddion eilradd o dan gyfyngiadau Deddfau’r Prawf a’r Corfforaethau a ddaeth i rym o dan Siarl II. Yr oedd y deddfau hynny’n eu hatal rhag dod yn ddylanwadol o fewn y gymdeithas.