Sglera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Sclera"
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Eye iris.jpg|300px|thumb|Llygad ddynol gyda'r iris a'r sglera yn wyn bob ochr iddo.]]
<nowiki>[[File:Eye iris.jpg|300px|thumb|Llygad ddynol gyda'r iris a'r sglera yn wyn bob ochr iddo.]]</nowiki>Y '''sglera''', hefyd yn cael ei adnabod fel '''gwyn y llygad''', yw'r haenen allanol amddiffynnol, ffibrog ac anhryloyw o'r [[llygad]] ddynol sy'n cynnwys [[colagen]] a pheth ffibr elastig.<ref name="Cassin">Cassin, B. and Solomon, S. ''Dictionary of Eye Terminology''. Gainesville, Florida: Triad Publishing Company, 1990.</ref> Mewn bodau dynol, mae'r holl sglera yn wyn ac yn cyferbynnu gyda'r [[iris]]. Mewn [[mamaliaid]] eraill, fodd bynnag, mae'r rhan weladwy o'r sglera yn cyfateb i'r iris, felly nid yw'r gwyn fel arfer i'w weld. Yn natblygiad yr embryo, mae'r sglera yn deillio o'r [[gwrym naturiol]].<ref>Hermann D. Schubert. ''Anatomy of the Orbit'' {{Cite web|url=http://www.nyee.edu/pdf/schubert.pdf|title=Archived copy|access-date=2008-05-19|archiveurl=https://web.archive.org/web/20081008043132/http://www.nyee.edu/pdf/schubert.pdf|archivedate=2008-10-08|deadurl=yes}}</ref> Gyda phlant, mae'n deneuach ac yn dangos rhywfaint o'r pigment oddi tano, gan ymddangos ychydig yn las. Gyda henoed, mae cramen frasterog ar y sglera yn gwneud iddo ymddangos ychydig yn felyn. Gall sglera melyn hefyd fod yn symptom o'r [[clefyd melyn]]. Mewn rhai achosion difrifol a phrin o fethiant y [[arennau]] a'r [[afu]], gall y sglera droi yn ddu. Gall lliw y croen hefyd ddylanwadu ar liw y sglera, o ganlyniad i liw [[melanin]].
 
Yn y llygad ddynol mae'n eitha anghyffredin i gael iris sy'n ddigon bychan i'w gweld yn gyfan gwbl yn erbyn y sglera. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i un person weld i ba gyfeiriad mae person arall yn edrych, ac mae'r hypothesis llygaid cydweithiol yn awgrymu bod hyn wedi esblygu fel dull o gyfathrebu aneiriol.Mae'r gair sclera yn tarddu o'r gair [[Groeg]] ''skleros'', sy'n golygu 'caled'.