T. Marchant Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
Golygydd ac awdur oedd '''Thomas Marchant Williams''' (1845 - 1914), a oedd yn adnabyddus wrth yr enw '''T. Marchant Williams'''. Roedd yn [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydwr]] a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol [[Cymru]] yn chwarter olaf y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed. Oherwydd ei ffraethineb ddeifiol a amlygid yn ei feirniadaeth o'r bywyd gwleidyddol, enillodd y [[llysenw]] '''''The Acid Drop'''''.
Brodor o [[Aberdâr]] ym [[Morgannwg]] oedd T. Marchant Williams.
Fel canlyniad i ddarlith gan [[Hugh Owen]] yng Nghaernarfon yn 1880, penderfynwyd sefydlu corff newydd - [[Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol]] - i lywio'r [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod]] a gofynwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Roedd yn aelod diwyd o [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]] hefyd.
|