T. Marchant Williams
Golygydd ac awdur o Gymru oedd Thomas Marchant Williams (1845 – 27 Hydref 1914), a oedd yn adnabyddus wrth yr enw T. Marchant Williams. Roedd yn Rhyddfrydwr a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru yn chwarter olaf y 19g a dechrau'r 20fed. Oherwydd ei ffraethineb ddeifiol a amlygid yn ei feirniadaeth o'r bywyd gwleidyddol, enillodd y llysenw The Acid Drop.
T. Marchant Williams | |
---|---|
Ffugenw | The Acid Drop |
Ganwyd | 1845 Aberdâr |
Bu farw | 27 Hydref 1914 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, cyfreithiwr, newyddiadurwr, bargyfreithiwr |
Bywgraffiad
golyguBrodor o Aberdâr ym Morgannwg oedd T. Marchant Williams. Hyfforddodd i fynd yn athro ysgol yng Ngholeg y Normal, Bangor. Yn ddiweddarach bu ymhlith y myfyrwyr cyntaf i fynychu Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd yrfa wrth y Bar yn nes ymlaen. Yn 1904 fe'i urddwyd yn farchog.
Fel canlyniad i ddarlith gan Hugh Owen yng Nghaernarfon yn 1880, penderfynwyd sefydlu corff newydd - Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol - i lywio'r Eisteddfod a gofynnwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Roedd yn aelod diwyd o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hefyd.
Bu'n olygydd y cylchgrawn cenedlaetholgar dylanwadol The Nationalist, a rhoddai hynny llwyfan iddo fynegi ei farn olygyddol ar bynciau mawr y dydd yng Nghymru a'r tu hwnt. Cyhoeddodd sawl ysgrif a llyfr dychanol ar wleidyddiaeth Cymru, yn Saesneg, a chyhoeddod gyfrol o gerddi Cymraeg hefyd.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- The Land of My Fathers (1889). Nofel ddychanol.
- The Welsh Members of Parliament (1894). Cyfres o frasluniau beirniadol.
- Odlau Serch a Bywyd (1907). Cerddi.