Llangelynnin, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cyn-blwyf yn [[Conwy (sir)|sir Conwy]] yw '''Llangelynnin''', hefyd weithiau '''Llangelynnin'''. Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yma, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys Llangelynnin.
 
Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben [[Dyffryn Conwy]], ychydig i'r gorllewinde-orllewin o [[Henryd]]. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn dyddio o'r [[6ed ganrif]]. Credir y gall rhannau o'r eglwys bresennol ddyddio o'r [[12fed ganrif]], ac mae rhannau healaeth ohoni o'r [[14eg ganrif]]. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y [[15fed ganrif]].
 
Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin. Ceir hefyd weddillion stabl gerllaw.