Wicipedia:Arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B ehangu arddull dyddiadau o'r dudalen sgwrs - gan nad oedd gwrthwynebiad ers oes pys
Llinell 20:
 
 
== Ardull dyddiadau ==
 
===Canrifoedd===
 
Argymhellir ysgrifennu canrifoedd ar Wicipedia fel a ganlyn:
Llinell 53:
* [[21ain ganrif]]
|}
 
Ar gyfer canrifoedd cyn Crist defnyddir y byrfodd "CC": '''4edd ganrif CC'''.
 
===Dyddiadau llawn===
Wrth fformatio dyddiadau argymhellir y patrwm: '''diwrnod''' '''mis''' '''blwyddyn'''.
 
:Ni argymhellir ei ehangu'n frawddeg gyflawn, er engraifft ni ddylid ysgrifennu '''ar y 21ain o Fehefin'''.
:Yn hytrach argymhellir ysgrifennu '''ar 21 Mehefin'''.
:Argymhellir rhoi un gwagle (''space'') rhwng y mis a'r flwyddyn, heb comma.
:Dylid creu dolen ar gyfer pob dyddiad yn yr erthygl.
:h.y. <nowiki>[[21 Mehefin]] [[1926]]</nowiki>
 
===Amrediad o ddyddiadau neu rifau===
 
Dylid defnyddio [[llinell doriad en]], nid [[cysylltnod]], i ddynodi amrediad, gellir teipio hwn fel '''&amp;ndash;'''
 
Fel rheol, ni ddylid rhoi gwagle rhwng y rhifau a'r llinell doriad en. h.y. '''1926&ndash;1932''' sy'n gywir. Ond weithiau, gellir defnyddio gwagle pan y gallai amrediad fod yn aneglur hebddo, er engraifft gydag amrediad o ddyddiadau penodol megis '''Mehefin 1926 &ndash; Gorffennaf 1932''' neu '''21 Mehefin 1926 &ndash; 3 Gorffennaf 1932'''.
 
''Gweler yr erthygl [[llinell doriad]] am fwy o wybodaeth am ddefnydd amryw o atalnodau tebyg.''
 
===Dyddiadau geni a marw===
Dylai rhain fod mewn cromfachau ar ôl enw'r person mewn erthyglau am bobl.
:Os mai dim ond dyddiad geni sydd, dylid ysgrifennu '''(ganwyd 21 Mehefin 1926)'''
:Os mai dim ond dyddiad marw sydd, dylid ysgrifennu '''(bu farw 21 Mehefin 1926)'''
:Os yw'r ddau ddyddiad yn yr erthygl, ni ddylid ysgrifennu "ganwyd" na "bu farw", yn hytrach dylid ei fformatio fel amrediad o ddyddiadau fel y disgrifir uchod.
 
Ni ddylid cynnyws lle geni a marw person o fewn y cromfachau sy'n dynodi rhychwant bywyd, ond dylid ei gynnwys mewn brawddeg. Mae hyn yn osgoi gor-gymlethu'r frawddeg agoriadol ac yn rhoi cyfle i ehangu'r erthygl ymhellach.
 
==Enwi erthyglau==