Mynydd Parys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32:
==Enw'r mynydd==
 
Er nad yn fynydd yng ngwir ystyr y gair, mynydd fuodd o erioed i bobl Môn. Cafodd ei adnabod fel ''Mynydd Pres'' a ''Mynydd Parhaus'' gan rai ond yr enw gwreiddiol oedd ''Mynydd Trysglwyn''. <ref>Mynydd Parys. JR Williams. Gwasg Carreg Gwalch 2011.</ref> Daw yr enw o ''trwsgl'' a ''llwyn''. Ystyr y rhan gyntaf yw bras, crachlyd, garw, neu wahanglwyfus. Ystyr yr ail ran yw perth/i o goed. Anodd credu heddiw pan fo’r mynydd yn cael ei ddisgrifio fel anialdir, fod yr ardal ar un amser yn llawn o lwyni coed wedi eu gorchuddio a chen neu dyfiant. Ceir yr enw trysglwyn yn enw dwy o ffermydd-Trysglwyn-fawr a Trysglwyn-isaf sydd i’r de o’r mynydd. <ref>Dictionary of the Place-Names of Wales. H.Owen a R.Morgan.Gwasg Gomer 2007. hanes ac Ystyr Enwau Lleoedd yn Mon.T.Pritchard.Amlwch 1872. Hen Enwau o Ynys Mon. Glenda Carr. Gwasg y Bwthyn 2015.</ref>
Newidiwyd yr enw yn nechrau’r 15fed ganrif pan gyflwynwyd y tir i Robert Parys yr Ieuengaf, am ei waith fel comisiynydd neu gasglwr trethi a dirwyon yn amrywio o 2/- hyd at 20/-oddi ar 2,121 a 13 offeiriad o gefnogwyr [[Owain Glyn Dŵr]] wedi’r gwrthryfel yn erbyn Harri’r IV. Yr oedd cefnogaeth gref i Glyn Dŵr ar yr ynys oherwydd cysylltiadau teuluol, ymysg rhesymau eraill. Dau gefnder iddo – Gwilym a [[Rhys ap Tudur]] a gipiodd [[Castell Conwy|Gastell Conwy]] a’i ddal am ddau fis ac o’r ynys yr ymosodwyd ar [[Caernarfon|Gaernarfon]]. Casglodd Parys £537 7s ym Môn oedd yn cynnwys £83 5s 8d (gwerth £38,304.50 yn 2010) yng nghwmwd Twrcelyn. <ref>Atlas Mon. Gol.: M. Richards. Cyngor Gwelad Mon 1972.</ref>
 
Credir i Parys gael y swydd drwy ddylanwad ei fam – Siwan neu Janet, merch Sir William Stanley, [[Hooton, Swydd Gaer|Hooton,]] [[Sir Gaer]] a’i hail-ŵr–Gwilym ap Gruffydd o’r [[Penrhyn]], [[Llandygái|Llandegai]] a oedd yn gefnogwr brwd i Harri’r IV. <ref>Copper Mountain. J Rowlands. CHAMN 1981</ref> Daeth y tir yn eiddo gwraig Robert ar ei farwolaeth ac ar ei marwolaeth hi, yn eiddo i William Gruffydd Fychan – sef ei mab o’i hail ŵr a thrwy briodas fe ddaeth y mynydd, ymhen amser, i ddwylo teulu [[Plas Newydd]], [[Llanfair Pwllgwyngyll|Llanfairpwll]] a theulu Llys Dulas. Teulu Plas Newydd oedd unig berchnogion yr ochr ddwyreiniol a theuluoedd Phlas Newydd a Llys Dulas yn gydberchnogion ar yr hanner gorllewinol. <ref>Mynydd Parys. O. Griffith. Y Wasg Genedlaethol Gymreig 1897.</ref>
 
Datblygodd gwaith copr mwyaf Prydain ar Fynydd Parys ond erbyn heddiw, ychydig o arwyddion prysurdeb y gorffennol sydd wedi goroesi ac mae’r safle a gwedd arallfydol iddi. Fe’i cysidrir yn un o anialdiroedd yr ynys. <ref>Crwydro Mon. Bobi Jones. Llyfrau'r Dryw 1957</ref>
 
== Adar y Mynydd ==