Agor y brif ddewislen

Mae Mynydd Parys yn fryn 147 m (482 troedfedd) o uchder, ychydig i'r de o dref Amlwch yng Ngogledd-Ddwyrain Ynys Môn. Yn ail hanner y 18fed ganrif roedd y diwydiant copr yn Mynydd Parys y mwyaf yn y byd.[1]

Mynydd Parys

Ynys Môn
Mynydd Parys
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Mynydd Parys
Uchder (m) 147
Uchder (tr) 482
Amlygrwydd (m) 66
Lleoliad yn Ynys Môn
Map topograffig {{{map_topo}}}
Cyfesurynnau OS SH445905
Gwlad Cymru
Dosbarthiad
Mynydd Parys is located in Cymru
Mynydd Parys (Cymru)

Cynnwys

HanesGolygu

Fideo 'drone' o Fynydd Parys a Melin wynt Cairn
 
"Ceiniog Parys" o 1787

Darganfuwyd olion mwyngloddio copr yma yn Oes yr Efydd, a chredir fod y Rhufeiniaid hefyd wedi bod yn mwyngloddio yma. Yn 1764 rhoddodd y tirfeddianwyr, teulu Bayly, lês o 21 mlynedd i Charles Roe o Macclesfield i chwilio am gopr. Ar 2 Mawrth 1768 darganfu un o'r mwynwyr, Rowland Pugh, haen fawr o gopr. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.[1]

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y Copr Ladis, cyn cael eu hanfon o borthladd Amlwch i borthladd Abertawe i'w smeltio, neu weithiau i Swydd Gaerhirfryn. Byddai plant mor ifanc ag 8 oed yn gweithio yno ar un adeg, a thynnwyd cost offer a chodi mwyn o'u cyflogau pitw gan berchnogion y mwynglawdd. Ar yr arfordir gerllaw, roedd safleodd mwyndoddi, lle cynhesid mwynau copr er mwyn cael gwared ag amhureddau megis sylffwr. Roedd mygdarthau sylffwrig gwenwynig yn llygru ardal Amlwch, a talwyd iawndal i drigolion y dref. Erbyn diwedd y 18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref gyda diwydiant copr mwyaf yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr, a dechreuodd y llongau deithio i ddinas Lerpwl.[1]

Roedd y cwmni yn bathu ei arian ei hun, sef "Ceiniog Parys" ("Parys Penny") a ddefnyddid yn lleol ac a adnabuwyd fel arian cyfred cyfreithlon gan y llywodraeth.

Ar anterth y mwyngloddio, cyflogwyd dros 1,000 o bobl, ond erbyn 1810 dim ond tua 100 a gyflogwyd.[1] Dirywiodd y diwydiant copr tua chanol y 1850au, a chaeodd y gwaith copr yn Myndd Parys ar ddechrau'r 20g. Mae rhan orllewinol y mynydd yn eiddo i Anglesey Mining PLC, sy'n bwriadu ail-ddechrau mwyngloddio yma.

Enw'r mynyddGolygu

Er nad yn fynydd yng ngwir ystyr y gair, mynydd fuodd o erioed i bobl Môn. Cafodd ei adnabod fel Mynydd Pres a Mynydd Parhaus gan rai ond yr enw gwreiddiol oedd Mynydd Trysglwyn.[2] Daw yr enw o trwsgl a llwyn. Ystyr y rhan gyntaf yw bras, crachlyd, garw, neu wahanglwyfus. Ystyr yr ail ran yw perth/i o goed. Anodd credu heddiw pan fo’r mynydd yn cael ei ddisgrifio fel anialdir, fod yr ardal ar un amser yn llawn o lwyni coed wedi eu gorchuddio a chen neu dyfiant. Ceir yr enw trysglwyn yn enw dwy o ffermydd-Trysglwyn-fawr a Trysglwyn-isaf sydd i’r de o’r mynydd.[3]

Newidiwyd yr enw yn nechrau’r 15fed ganrif pan gyflwynwyd y tir i Robert Parys yr Ieuengaf, am ei waith fel comisiynydd neu gasglwr trethi a dirwyon yn amrywio o 2/- hyd at 20/-oddi ar 2,121 a 13 offeiriad o gefnogwyr Owain Glyn Dŵr wedi’r gwrthryfel yn erbyn Harri’r IV. Yr oedd cefnogaeth gref i Glyn Dŵr ar yr ynys oherwydd cysylltiadau teuluol, ymysg rhesymau eraill. Dau gefnder iddo – Gwilym a Rhys ap Tudur a gipiodd Gastell Conwy a’i ddal am ddau fis ac o’r ynys yr ymosodwyd ar Gaernarfon. Casglodd Parys £537 7s ym Môn oedd yn cynnwys £83 5s 8d (gwerth £38,304.50 yn 2010) yng nghwmwd Twrcelyn.[4]

Credir i Parys gael y swydd drwy ddylanwad ei fam – Siwan neu Janet, merch Sir William Stanley, Hooton, Sir Gaer a’i hail-ŵr–Gwilym ap Gruffydd o’r Penrhyn, Llandegai a oedd yn gefnogwr brwd i Harri’r IV.[5] Daeth y tir yn eiddo gwraig Robert ar ei farwolaeth ac ar ei marwolaeth hi, yn eiddo i William Gruffydd Fychan – sef ei mab o’i hail ŵr a thrwy briodas fe ddaeth y mynydd, ymhen amser, i ddwylo teulu Plas Newydd, Llanfairpwll a theulu Llys Dulas. Teulu Plas Newydd oedd unig berchnogion yr ochr ddwyreiniol a theuluoedd Phlas Newydd a Llys Dulas yn gydberchnogion ar yr hanner gorllewinol.[6]

Datblygodd gwaith copr mwyaf Prydain ar Fynydd Parys ond erbyn heddiw, ychydig o arwyddion prysurdeb y gorffennol sydd wedi goroesi ac mae’r safle a gwedd arallfydol iddi. Fe’i cysidrir yn un o anialdiroedd yr ynys.[7]

Adar y MynyddGolygu

Y Gigfran: (Corvus corax.) Mae gan y gigfran sŵn crawcian dwfn. Maent yn bwydo ar bryfed, hadau a defaid marw. Mae eu niferoedd wedi cynyddu ar yr ynys yn y blynyddoedd diweddar. Gellir eu gweld o gwmpas injan drawst, yr hen felin a'r gweithfeydd cloddio brig.

Y Fran Goesgoch: (Pyrrhocorax pyrrhocorax.) Mae gan y fran brin hon goesau a phig miniog coch. Mae hi i'w gweld yn hedfan dros fannau caregog a chreigiau. Mae'r aderyn hwn yn hoff o fwyta pryfed cop, a mwydod.

Jac y Do: (Corvus monedula.) Mae jac y do yn ddu ei liw a chanddo wddf llwyd. Mae'r adar hyn yn bwyta unrhyw beth, o frogaod i wyau adar eraill. Maent hefyd yn ladron penigamp. Maent yn medru creu nyth o wlân oddi ar ddafad fyw.

Yr Hebog Tramor: (Falco peregrinus). Mae'r Hebog Tramor yn cyrraedd cyflymder o dros 300 k.y.a. ac yn dal a bwyta adar llai, wrth hedfan.

Ehedydd: (Alauda arvensis). Aderyn sydd yn enwog am ei gân yw'r Ehedydd. Yn yr awyr agored mae o'n nythu ac mae'n bwyta hadau a thrychfilod bychain.

Corhedydd y Waun: (Anthus pratensis). Mae Corhedydd y Waun yn frown ac yn bwyta pryfed. Ymgasglir hwy mewn heidiau mawr ar y tir (yn ogystal ag ar yr arfordir)

Bwncath: (Buteo buteo). Mae'r bwncath yn aderyn ysglyfaethus. Mae ganddo gân unigrwy, tebyg i gath yn mewian. Mae'n hedfan mewn cylchoedd ar gerrynt aer cynnes wrth chwilio am ei ysglyfaeth. Mae adar eraill fel gwylanod a brain yn ymosod arno.[8]

GaleriGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • John Rowlands, Copper Mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966).

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 John Rowlands, Copper mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966).
  2. Mynydd Parys. JR Williams. Gwasg Carreg Gwalch 2011.
  3. Dictionary of the Place-Names of Wales. H.Owen a R.Morgan.Gwasg Gomer 2007. hanes ac Ystyr Enwau Lleoedd yn Mon.T.Pritchard.Amlwch 1872. Hen Enwau o Ynys Mon. Glenda Carr. Gwasg y Bwthyn 2015.
  4. Atlas Mon. Gol.: M. Richards. Cyngor Gwelad Mon 1972.
  5. Copper Mountain. J Rowlands. CHAMN 1981
  6. Mynydd Parys. O. Griffith. Y Wasg Genedlaethol Gymreig 1897.
  7. Crwydro Mon. Bobi Jones. Llyfrau'r Dryw 1957
  8. Philip Steele, Robert Williams (2010). Y Deyrnas Gopr. Llyfrau Magma. p. 2. ISBN 9-780956-3885-1-3. 

Gweler hefydGolygu

Dolenni allanolGolygu