Injan stêm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
Os gadewir i lefel y dŵr fynd yn rhy uchel y mae peryg i dŵr ynghyd a stêm fynd drwy'r brif beipen stêm i'r falfiau a silindrau. Gan nad ydyw dŵr yn goddef cael ei wasgu i'r un raddfa a nwy fel stêm y peryg felly ydyw naill ai chwythu caead oddi ar silindr neu plygu rhoden gyswllt. Gall hyn ddigwydd trwy ewyn yn ffurfio ar wyneb y dŵr. Y gair am hyn yw "preimio".
 
Trwy fod yn gelfydd wrth cyflenwi dŵr a glo i'r bwyler gellir cael llawer mwy o egni allan o'r injan dros dro nag a fedrir dros y cyfnod hir. Er engraifft, os bydd allt serth ond cymharol fer i'w chael yn ystod y daith bydd y taniwr yn adeiladu tan mawr a gwneud yn siwr fod lefel y dŵr yn y bywler yn uchel. Pan yn dringo'r allt - ac felly angen llawer o ynni - ni bydd yn cyflenwi dŵr nac yn rhoi glo ar y tan ond bydd yn gadael i'r injan "bywfyw ar ei bloneg" am gyfnod. Dyma wir grefft tanio injian stem, sef medru rhagweld pa bryd y bydd angen yr ymdrech fwyaf a pharatoi amdani.
 
[[Categori:Trenau]]