Belffast: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B osgoi termau dadleuol
Llinell 2:
[[Delwedd:997055128 c8fb27b317 b.jpg|250px|bawd|[[Neuadd Dinas Belffast]]]]
[[Delwedd:Belfast Queen University.jpg|240px|de|bawd|Prifysgol y Frenhines, Belffast]]
'''Belffast''' ([[Gwyddeleg]]: ''Béal Feirste''; [[Saesneg]]: ''Belfast'') yw dinas fwyaf a phrifddinas talaith [[Gogledd Iwerddon]]. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau [[Afon Lagan]] lle mae'r afon honno'n llifo i [[Lough Belffast]], ar y ffin rhwng [[Swydd Antrim]] a [[Swydd Down]]. Mae'n gartref i iard longau ''Harland and Wolfe'' ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys [[Neuadd Dinas Belffast]] (1906) ac [[Adeilad y Senedd (Gogledd Iwerddon)|Adeilad y Senedd]] (''[[Stormont]]'') (1932). Rhoddwyd ei siarter i [[Prifysgol y Frenhines, Belffast|Brifysgol y Frenhines]] ym [[1909]].
 
Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â '[[Helyntion Gogledd Iwerddon]]', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r [[1970]]au a'r [[1990au]].