Belffast

dinas yn Iwerddon

Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste;[1] Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.

Belffast
ArwyddairPro Tanto Quid Retribuamus? Edit this on Wikidata
Mathdinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Farset Edit this on Wikidata
De-Belfast.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth345,006 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBonn, Hefei, Guadalajara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Belffast Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd114.995472 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5964°N 5.93°W Edit this on Wikidata
Map
Prifysgol y Frenhines, Belffast

Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.

Yr Helyntion

golygu

Cafodd dros 1,600 o bobl eu lladd yn ystod Yr Helyntion, trais gwleidyddol yn y ddinas rhwng 1969 a 2001.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu

Enwogion

golygu

Chwaraeon

golygu

Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Ulster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn Stadiwm Kingspan.

Lleolir nifer o brif dimau pêl-droed Gogledd Iwerddon a chlybiau hynaf y gamp yn yr holl ynys yn y ddinas. Yn eu mysg mae Cliftonville F.C..

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.