Olaf Sigtryggsson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Aelod o deulu brenhinol [[Daniaid Dulyn]] oedd '''Olaf Sigtryggsson''', hefyd '''Olaf Arnaid''' neu '''Olaf o Ddulyn''' (bu farw [[1034]]). Cyfeirir ato fel '''Afloedd''' yn ''[[Historia Gruffud vab Kenan]]'', ac '''Amlaíb mac Sitriuc''' mewn [[Gwyddeleg]]. Roedd yn daid i [[Gruffudd ap Cynan]].
 
Roedd Olaf yn fab i frenin Daniaid Dulyn, [[Sigtrygg Farf Sidan]]. Dywedir iddo ymgyrchu yn erbyn Gwynedd, ac ymddengys iddo feddiannu rhan o'r deyrnas am gyfnod tua'r flwyddyn [[1000]], gan adeiladu castell a elwid yn "Castell Bon y Dom" neu "Castell Olaf". Nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y castell yma; awgrymwyd [[Castell Bryn Gwyn]] ger [[Brynsiencyn]] neu leoliad gerllaw [[y Felinheli]].
 
Llofruddiwyd Olaf yn [[Lloegr]] yn 1034, pan oedd ar bererindod i [[Rhufain|Rufain]]. Priododd ei ferch, [[Ragnell]], a [[Cynan ap Iago]] o linach Aberffraw, a chawsant un mab, [[Gruffudd ap Cynan]].