Antonio Solario: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 5:
Yr unig ffynhonnell sydd gennym am fywyd Solario yw [[Bernardo de' Dominici]], yn ei gasgliad o fywgraffiadau cryno o arlunwyr [[Napoli]]. Dywed Dominici taw [[Chivita]], yn yr [[Abruzzi]], oedd ei fan geni, ond tybir eraill taw brodor o [[Fenis]] oedd Solario. Fel yr awgrymir ei lysenw, o dras [[Roma]] ydoedd. Yn ei ieuenctid, teithiai ar hyd y wlad i weithio fel gof, a mynegir iddo gael ei gymryd i mewn i gartref yr arlunydd Colantonio' del Fiore yn Napoli, oherwydd ei fedrusrwydd mawr fel gwneuthurwr offerynnau haearn. Syrthiodd Solario mewn cariad gyda merch Colantonio, a syrthiodd hithau mewn cariad ag yntau. Gwnaeth Solario ei feddwl yn hysbys i Colantonio, ond dywedai yr olaf na chydsyniai efe byth i'w ferch briodi â neb ond ag arlunydd a feddai o leiaf gymeriad mor uchel ag ef ei hun. Nid oedd ''Lo Zingaro'' i gael ei ddiganoli yn y ffordd hon: gofynodd am gael deng mlynedd o amser i astudio'r gelfyddyd, ac er mwyn bodloni ei ferch, cydsyniodd Colantonio â'r cais.
 
Rhoddodd Solario ei hun yn ddisgybl i [[Lippo di Dalmasio]] yn [[Bologna]], gyda'r hwn yr arosodd am chwech neu saith mlynedd. Wedi hynny, teithiodd trwy brif drefi'r Eidal mewn trefn i astudio gweithiau meistriaid eraill yn y gelfyddyd. Ymhen ychydig gyda naw mlynedd, dychwelodd yn ddirgelaidd i Napoli, ac wedi anrhegu brenhines Napoli â darlun o'r [[Forwyn Fair]], ac o'r bachgen [[Iesu]] yn cael ei goroni gan angylion, aca hefyd wedi cael caniatâd i baentio darlun o'r frenhines, gwahoddwyd Colantonio i weld cynhyrchion yr arlunydd anadnabyddus, a datganodd yntau ei edmygedd mwyaf ohonynt. Yna amlygodd Solario ei hun, ac yn fuan ar ôl hynny, daeth yn fab-yng-nghyfraith i Colantonio. Sefydlwyd ei gymeriad ar unwaith, a chafodd lawer o waith, yn enwedig yn Napoli, i baentio [[allor]]au'r eglwysi, ac addurno muriau [[mynachdy|mynachdai]] a thai crefyddol eraill.
 
Mae'n sicr bod gwallau yn yr hanes gan Dominici: er enghraifft, honnai taw 1382 oedd blwyddyn geni'r arlunydd, ac iddo farw ym 1455. Yn yr 20g, cywirwyd cronoleg ei fywyd gan yr haneswyr celf, a gwyddom taw diwedd y 15g a dechrau'r 16g oedd cyfnod ei oes. Blodeuodd Dalmasio yn y cyfnod cynharach a honnir gan Dominici, ac felly mae'n sicr nad oedd Solario yn ddisgybl iddo. Yn wir, mae'n debyg na fodolai'r arlunydd Colantonio' del Fiore o gwbl. Mae o'r bron yr un chwedl yn cael ei hadrodd am Solario a'r hon a a roddir am yr arlunydd Ffleminaidd [[Quentin Mastys]].