Gwydion fab Dôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
trefnu ac ehangu
Llinell 1:
Cymeriad yn y bedwaredd o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'' yw '''Gwydion fab Dôn'''. Gellir ystyried mai Gwydion, yn hytrach na Math, yw'r prif gymeriad yn y stori. Mae ei fam, [[Dôn]], yn [[Dduwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] sy'n chwaer i Math fab Mathonwy ac a uniaethir â'r dduwies Geltaidd [[Danu]]/[[Anu]] yn y traddodiad Gwyddelig. 'Caer Wydion' yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y [[Llwybr Llaethog]].
 
==Rhan Gwydion yn chwedl ''Math fab Mathonwy''==
Yn ôl y chwedl, ni allai [[Math]] fab [[Mathonwy]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i draed yng nghôl morwyn, ac eithrio yn amser rhyfel. [[Goewin]] ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Mae brawd Gwydion, [[Gilfaethwy fab Dôn]], yn syrthio mewn cariad a hi. Dyfala Gwydion fod rhywbeth o'i le ar ei frawd, ac wedi ei holi, mae'n darganfod ei gyfrinach ac yn addo ei helpu.
 
Llinell 29 ⟶ 30:
"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Blodeuwedd. Daliwyd hi wrth [[Llyn y Morynion]] a dywedodd Gwydion wrthi,
"Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan [[Afon Cynfal]] a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.
 
==Traddodiadau eraill==
Ceir nifer o gyfeiriadau at Wydion yng ngherddi Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn enwedig yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]]. Mae'r dystiolaeth hyn yn dangos fod y chwedl a geir yn y Mabinogi yn adnabyddus ac mae'n awgrymu hefyd y bu cylch ehangach o chwedlau amdano ar un adeg. Fe'i enwir sawl gwaith yn y cerddi a gysylltir â hanes y [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]. Yn y gerdd hynafol ''Cad Goddau'', yn [[Llyfr Taliesin]], dywedir y bu Gwydion yn bresennol yn y frwydr (symbolaidd?) honno ac iddo ef a Lleu rithio coed a blodau trwy hud. Cyfeiria cerdd arall yn Llyfr Taliesin at frwydr rhwng Gwydion a rhyw elyn anhysbys yn [[Nant Ffrancon]]. Yn y gerdd ''Echrys Ynys'' (Llyfr Taliesin), gelwir [[Eryri]] yn 'wlad Gwydion'.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), tt. 401-02.</ref>
 
Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] yn cyfeirio at 'Hud Math fab Mathonwy (a ddysgodd i Wydion fab Dôn)' fel un o 'Dair Prif Hud [[Ynys Prydain]]'. Mewn triawd arall mae Gwydion yn un 'Dri Eur Gryd Ynys Prydain', cyfeiriad at hanes ei ymweliad â Chaer Arianrhod gyda Lleu Llaw Gyffes.<ref>''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), trioedd 28, 67.</ref>
 
Yn [[Englynion y Beddau]] dywedir fod bedd Gwydion i'w gael ym [[Dinas Dinlle|Morfa Dinlleu]] (ger [[Caernarfon]]).<ref>''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), tud. 402.</ref> Ceir Bryn Gwydion ger [[Clynnog Fawr]], [[Gwynedd]] ac mae Caer Wydion yn enw traddodiadol am y [[Llwybr Llaethog]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 34 ⟶ 45:
* Ifans, Dafydd & Rhiannon, ''Y Mabinogion'' (Gomer 1980) ISBN 1 85902 260 X (Sylwer fod y dyfyniadau uchod yn dod o'r diweddariad hwn yn hytrach na thestun gwreiddiol y ''Pedair Cainc''.)
*Ifor Williams (gol.), ''Pedeir Keinc y Mabinogi'' (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)
 
 
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]