Rhirid Flaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Uchelwr a noddwr beirdd oedd '''Rhirid Flaidd''' (m.yn fyw tua [[1160]]?). Roedd yn byw yng ngogledd [[Teyrnas Powys|Powys]] ac yn noddwr i'r [[bardd]] [[Cynddelw Brydydd Mawr]]. Roedd yn fab i Gwrgenau a oedd â ach amheus yn mynd nôl at [[Cunedda Wledig|Gunedda Wledig]]. Priododd Gwenllian, ferch Ednyfed ap Rhiwallon, Brochdyn, a cawsont ddau fab, Einion a Madog<ref>{{dyg gwe| url=http://wbo.llgc.org.uk/cy/c-RHIR-FLA-1160.html| teitl=RHIRID FLAIDD (fl. 1160)| cyhoeddwr=Y Bywgraffiadur Ar-lein}}</ref> Mae'r ychydig a wyddys amdano yn deillio o gyfeiriadau ato gan Gynddelw a gwybodaeth am ei deulu yn yr [[achau]] Cymreig.
 
[[Madog ap Maredudd]] oedd brenin Powys yn oes Rhirid. Mae'n debyg i Ririd a'i frawd [[Arthen ap Gwrgenau|Arthen]] gael eu lladd mewn brwydr yn fuan ar ôl marwolaeth Madog yn [[1160]].
Llinell 7:
Mae Rhirid yn adnabyddus heddiw am fod Cynddelw, y mwyaf o'r [[Gogynfeirdd]] cynnar, wedi canu iddo a bod tair cerdd iddo ar glawr. Canodd Cynddelw gerdd i ddiolch iddo am anrheg o gleddyf arbennig. Ond ein prif ffynhonnell yw'r ddwy [[marwnad|farwnad]], un i Ririd ei hun a'r llall iddo a'i frawd Arthen ynghyd. Mae Rhirid yn enghraifft brin a chynnar o noddwr o uchelwr yn [[Oes y Tywysogion]].
 
==FfynhonnellFfynhonnellau==
{{cyfeiriadau}}
*Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), ''Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr'', cyfrol I ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1991)
 
==Llyfryddiaeth==
*Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), ''Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr'', cyfrol I ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1991)
 
[[Categori:MarwolaethauGenedigaethau'r 1160au10fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 10fed ganrif]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]