Astudiaethau Celtaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Diffinir '''Astudiaethau Celtaidd''' yn benodol fel yr [[astudiaeth]] o ddiwylliant y [[Celtiaid]] trwy ddulliau [[ieithyddiaeth]] ac [[ieitheg]],<ref>Bernhard Maier, ''Dictionary of Celtic Religion and Culture'' (1994: cyfieithiad Saesneg gan Cyril Edwards, Gwasg Boydell, 1997). d.g. ''Celtic Studies''.</ref> ond gall cynnwys hefyd astudio pob agwedd ar iaith hanes, mytholeg, llenyddiaeth a diwylliant y pobloedd Celtaidd yn gyffredinol, ym Mhrydain, Iwerddon ac ar gyfandir Ewrop.
 
==Hanes==
Gellir olrhain dechreuadau Astudiaethau Celtaidd fel disgyblaeth academaidd i waith hynafiaethwyr ac ieithyddion cynnar. Yr Albanwr [[George Buchanan]] (1506-1582) oedd un o'r ysgolheigion cyntaf i sylwi ar y berthynas rhwng [[ieithoedd Celtaidd]] Prydain ([[Brythoneg]]) ac Iwerddon ([[ieithoedd Goidelig]]) ac ieithoedd Celtaidd y cyfandir (e.e. [[Galeg]]). Arloeswr mawr y maes oedd y Cymro [[Edward Lhuyd]] (c. 1660-1709), a wnaeth yr arolwg cynhwysfawr cyntaf o'r ieithoedd Celtaidd ynysig ([[Cernyweg]], [[Cymraeg]], [[Llydaweg]] a [[Gwyddeleg]]). Erbyn hanner cyntaf y 19eg ganrif, dangoswyd gan [[Franz Bopp]] (1791-1867) ac eraill fod yr ieithoedd Celtaidd yn perthyn i uwch-deulu ieithyddol yr [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]].<ref>''Dictionary of Celtic Religion and Culture'', d.g. ''Celtic Studies''.</ref>
 
Gosodwyd sylfeini cadarn i Astudiaethau Celtaidd fel disgyblaeth academaidd fodern gan yr ieithydd Almaenig [[Johann Kaspar Zeuss]] a gyhoeddoedd ei gyfrol arloesol y ''Grammatica Celtica'' yn 1851. Perchir gwaith Zeuss o hyd. Yn nes ymlaen yn y 19eg ganrif sefydlwyd y cadeiriau prifysgol cyntaf mewn Astudiaethau Celtaidd; dyma gyfnod [[John Rhŷs]] yn Rhydychen, [[Henri d'Arbois de Jubainville]] yn Ffrainc a [[Heinrich Zimmer]] yn yr Almaen.<ref>''Dictionary of Celtic Religion and Culture'', d.g. ''Celtic Studies''.</ref>
 
Yng Nghymru, sefydlwyd [[Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd]] gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]] yn 1921, gan ddilyn esiampl yr Ysgol Ysgolheictod Gwyddelig a sefydlwyd yn ninas [[Dulyn]] yn 1903. Ceir canolfannau ac adrannau Astudiaethau Celtaidd mewn sawl gwlad erbyn hyn, yn cynnwys yr Alban, Cymru, Ffrainc, Lloegr (Caergrawnt) a'r Unol Daleithiau. Lleolir Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn [[Aberystwyth]], ar safle [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].
 
==Rhai ysgolheigion Celtaidd==
Llinell 30:
* [[Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd]]
* [[Y Celtiaid]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}