Astudiaethau Celtaidd
Diffinnir Astudiaethau Celtaidd yn benodol fel yr astudiaeth o ddiwylliant y Celtiaid trwy ddulliau ieithyddiaeth ac ieitheg,[1] ond gall cynnwys hefyd astudio pob agwedd ar iaith hanes, mytholeg, llenyddiaeth a diwylliant y pobloedd Celtaidd yn gyffredinol, ym Mhrydain, Iwerddon ac ar gyfandir Ewrop.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | ieitheg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguGellir olrhain dechreuadau Astudiaethau Celtaidd fel disgyblaeth academaidd i waith hynafiaethwyr ac ieithyddion cynnar. Yr Albanwr George Buchanan (1506-1582) oedd un o'r ysgolheigion cyntaf i sylwi ar y berthynas rhwng ieithoedd Celtaidd Prydain (Brythoneg) ac Iwerddon (ieithoedd Goidelig) ac ieithoedd Celtaidd y cyfandir (e.e. Galeg). Arloeswr mawr y maes oedd y Cymro Edward Lhuyd (c. 1660-1709), a wnaeth yr arolwg cynhwysfawr cyntaf o'r ieithoedd Celtaidd ynysig (Cernyweg, Cymraeg, Llydaweg a Gwyddeleg). Erbyn hanner cyntaf y 19eg ganrif, dangoswyd gan Franz Bopp (1791-1867) ac eraill fod yr ieithoedd Celtaidd yn perthyn i uwch-deulu ieithyddol yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.[2]
Gosodwyd sylfeini cadarn i Astudiaethau Celtaidd fel disgyblaeth academaidd fodern gan yr ieithydd Almaenig Johann Kaspar Zeuss a gyhoeddoedd ei gyfrol arloesol y Grammatica Celtica yn 1851. Perchir gwaith Zeuss o hyd. Yn nes ymlaen yn y 19eg ganrif sefydlwyd y cadeiriau prifysgol cyntaf mewn Astudiaethau Celtaidd; dyma gyfnod John Rhŷs yn Rhydychen, Henri d'Arbois de Jubainville yn Ffrainc a Heinrich Zimmer yn yr Almaen.[2]
Yng Nghymru, sefydlwyd Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd gan Brifysgol Cymru yn 1921, gan ddilyn esiampl yr Ysgol Ysgolheictod Gwyddelig a sefydlwyd yn ninas Dulyn yn 1903. Ceir canolfannau ac adrannau Astudiaethau Celtaidd mewn sawl gwlad erbyn hyn, yn cynnwys yr Alban, Cymru, Ffrainc, Lloegr (Caergrawnt) a'r Unol Daleithiau. Lleolir Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, ar safle Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Beirniadaeth
golyguYmysg beirniaid Astudiaethau Celtaidd oedd R. T. Jenkins, a ysgrifennodd ym 1936:
“ | Y gwir yw, mae'n debyg, na allaf oddef 'Celtigrwydd' yn unrhyw un o'i ffurfiau, a bod Llydaw'n dioddef yn fy ngolwg oherwydd ymdrechion annoeth rhai pobl i sylfaenu hanes ac athroniaeth ar ffaith ieithegol—i haeru mai'r un bobl, bron iawn, yw Cymry a Gwyddyl a Llydawiaid 1936, am fod hynafiaid rhai ohonynt (rhai ohonynt) wedi bod yn siarad yr un iaith ganrifoedd lawer iawn yn ôl.[3] | ” |
Ym Medi 1998, ysgrifennodd Simon Brooks erthygl olygyddol yng nghylchgrawn Barn o'r enw "Iwerddon, y Celtiaid a Ni" oedd yn beirniadu Astudiaethau Celtaidd yn llym:
“ | Yn fy nhyb i, fraud deallusol anhygoel yw Astudiaethau Celtaidd, a'i phrif gyflawniad yw cadw Cymry rhag astudio problemau eu hoes eu hunain. Y gwir amdani yw mai syniad Seisnig yw 'Celtigrwydd' sy'n gynnyrch mudiad rhamantaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.[4] |
” |
Aeth ymlaen i gymharu Celtigrwydd â syniadau Edward Said o Orientaliaeth, a honni taw ffordd o drefedigaethu yw e.
Rhai ysgolheigion Celtaidd
golygu- Myles Dillon
- Miranda Green
- Kenneth H. Jackson
- Thomas Jones
- Henri d'Arbois de Jubainville
- Raimund Karl
- Henry Lewis
- Roger Sherman Loomis
- Kuno Meyer
- John Morris-Jones
- Gerard Murphy
- John Rhŷs
- Marie-Louise Sjoestedt-Jonval
- Whitley Stokes
- Rudolf Thurneysen
- Joseph Vendryes
- Ifor Williams
- Johann Kaspar Zeuss
- Heinrich Zimmer
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (1994: cyfieithiad Saesneg gan Cyril Edwards, Gwasg Boydell, 1997). d.g. Celtic Studies.
- ↑ 2.0 2.1 Dictionary of Celtic Religion and Culture, d.g. Celtic Studies.
- ↑ R. T. Jenkins, Cwpanaid o De a Diferion Eraill (Dinbych, 1997), t. 37, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Llenor (1936).
- ↑ S. Brooks, Yr Hawl i Oroesi (Gwasg Carreg Gwalch, 2009), t. 106, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Barn rhifyn 428 (Medi 1998).