Anterliwt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B iaith
Llinell 1:
{{Llenyddiaeth Gymraeg}}
Math o [[drama|ddrama]] fydryddol boblogaidd a oedd ar ei hanterth yn ail hanner y [[18fed ganrif]] yw'r '''anterliwt''' (neu '''interliwtanterliwt'''). Daw'r enw o'r gair Saesneg ''interlude'' (sy'n tarddu o'r arfer o berfformio darnau dramataidd byr er diddanu'r dorf rhwng actiauactau hir y [[drama firagl|dramâu miragl]] canoloesol). Roedd yn ffurf a ddatblygodd yn bennaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn arbennig yn siroedd [[Sir Ddinbych|Dinbych]] a [[Sir y Fflint|Fflint]]. Fe'i chwareidchwaraeid mewn ffeiriau, yn y dafarn neu ar fuarth fferm i ddiddanu'r werin.
 
Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair 'anterliwt' yng ngeiriadur y bardd [[Wiliam Llŷn]] (1534/5-1580), ond nid oes llawer o dystiolaeth uniongyrchol am anterliwtiau Cymraeg yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]]. Daeth yn amlwg yn y ddeunawfed ganrif ac mae pob un o'r 44 anterliwt sydd wedi goroesi yn perthyn i'r ganrif honno a blynyddoedd cynnar y ganrif olynol.
 
[[Delwedd:Twm o'r Nant.JPG|170px|bawd|chwith|[[Twm o'r Nant]] (1739-1810), y mwyaf o'r anterliwtwyr]]
[[Delwedd:Twm o'r Nant.JPG|170px|bawd|chwith|[[Twm o'r Nant]] (1739-1810), y mwyaf o'r anterliwtwyr]]Ar y gororau y datblygodd yr anterliwt, ac mae'n amlwg fod dylanwad Seisnig arni, ond tyfodd i fod yn ffurf lenyddol gwbl Gymreig a Chymraeg. Gellid ei disgrifio fel math o ymddiddan ar gân neu ddrama foesol yn hytrach na drama reolaidd gyda phlot a symudiad yn ôl rheolau [[Aristotlys]]. Mae ganddi berthynas agos â'r [[ffars]] ganoloesol yn ogystal, gydag elfen o [[maswedd|faswedd]] ddiniweddiniwed a rhialtwch. Teipiau haniaethol fel Y Cybydd, Cariad, Rhagrith ac ati, neu gymeriadau stoc o fywyd bob dydd, fel yr Hwsmon neu'r Gŵr Bonheddig, yw'r cymeriadau. Arferid chwarae anterliwtiau ple bynnag y ceid llwyfan addas a digon o bobl i wrando (a thalu), er enghraifft mewn [[ffair|ffeiriau]], neithiorau cefn gwlad, [[tafarn]]au, bueirthbuarth fferm. DefnyddiddDefnyddid gwagenni i'r llwyfan a byddai'r actorion yn gwisgo yn yr ysgubor neu stafell yng nghefn y dafarn. Roedd [[cerddoriaeth|miwsig]] a [[dawns]] yn rhan hanfodol o'r difyrrwch yn ogystal, a byddai yno [[crwth|grwth]] a chrythor ac efallai pibydd hefyd. Byddai rhywrai ar ran y cwmni yn casglu arian ar ôl y perfformiad ac fel rheol gwerthid copïau o'r anterliwt yn ogystal.
 
Mae'r anterliwtwyr mawr yn cynnwys [[Twm o'r Nant]] (8 anterliwt), y pwysicaf o lawer, [[Jonathan Huws]] o [[Llangollen|Langollen]], [[Elis y Cowper]], [[Dafydd Jones]] o [[Trefriw|Drefriw]], [[Huw Jones]] o [[Llangwm|Langwm]], [[Siôn Cadwaladr]] o'r [[Y Bala|Bala]] a [[William Roberts]], clochydd [[Nanmor]] ac eraill. [[Bardd gwlad|Beirdd gwlad]] oedd nifer o'r rhain, neu fân grefftwyr.
 
Bu farw'r anterliwt pan drôdddrodd Cymru ei chefn ar yr hen arferion poblogaidd dan ddylanwad yr enwadau [[Anghydffurfiaeth|anghydffurfiol]] ar ddechrau'r [[19eg ganrif]].
 
==Darllen pellach==