Ail frwydr Bedriacum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B i/w
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Ymladdwyd '''Ail frwydr Bedriacum''' ar [[24 Hydref|24]] - [[25 Hydref]], [[69]], rhwng dwy fyddin [[Ymerodraeth Rhufain|Rufeinig]], un yn cefnogi yr ymerawdwr [[Vitellius]] a'r llall yn cefnogi [[Vespasian]], dan [[Antonius Primus]]. Roedd yn un o frwydrau olaf [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]].
 
Roedd Vespasian yn nhalaith [[Judea]], wedi ei yrru yno gan yr ymerawdwr [[Nero]] i ddelio a gwrthryfel yr Iddewon. Yn dilyn hunanladdiad Nero yn 68, lladdwyd ei olynydd [[Galba]] yn 69 a chyhoeddwyd [[Otho]] yn ymerawdwr, cyn iddo yntau gael ei ddisodli gan [[Vitellius]]. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw [[Syria]], Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar [[Afon Donaw]] dan [[Marcus Antonius Primus]], a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Gyrroedd Vitellius fyddin i'w cyfarfod, a daeth y ddwy fyddin i wrthdrawiad ger Bedriacum a dinas [[Cremona]] yng ngogledd [[yr Eidal]].
 
Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i gefnogwyr Vespasian. Aeth Primus ymlaen i feddiannu Rhufain, gan ladd Vitellius a gosod Vespasian ar yr orsedd fel ymerawdwr. Rhoddodd hyn ddiwedd ar y rhyfel cartref.