Perffeithiaeth (seicoleg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }} Mae '''perffeithiaeth''' yn golygu’r duedd i osod safonau sydd mor uchel nad oes modd eu cyrraedd, neu eu bod yn ca...'
 
Ciphers (sgwrs | cyfraniadau)
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: '<!-- how about this?? huh?? get me bubble-head James over here!! now! -->'
Tagiau: Disodlwyd
Llinell 1:
<!-- how about this?? huh?? get me bubble-head James over here!! now! -->
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
Mae '''perffeithiaeth''' yn golygu’r duedd i osod safonau sydd mor uchel nad oes modd eu cyrraedd, neu eu bod yn cael eu cyrraedd drwy gryn drafferth.
 
Mae perffeithwyr yn credu fod unrhyw beth nad yw’n berffaith yn ofnadwy a bod hyd yn oed mân ddiffygion yn drychinebus. Er enghraifft, tra bo’r rhan fwyaf o bobl yn credu ei bod hi’n bwysig gwneud eich gorau glas a pheidio â gwneud camgymeriadau, maen nhw’n cydnabod bod gwneud camgymeriadau o bryd i’w gilydd yn anorfod, ac nad yw un camgymeriad yn golygu eu bod nhw wedi methu yn llwyr. Fodd bynnag, mae pobl sydd â pherffeithiaeth yn meddwl na ddylent fyth wneud camgymeriadau a bod camgymeriad yn golygu eu bod yn fethiant llwyr neu eu bod yn berson gwael am iddynt siomi eraill.
 
Mae’r meddylfryd hwn yn golygu bod gwneud camgymeriadau yn frawychus iawn iddynt. Yn bur aml, mae’r ymgais i fod yn berffaith yn achosi straen a siomedigaeth oherwydd methu â chyrraedd y safonau rydych chi wedi eu gosod i chi eich hunan. O dipyn i beth, gallech chi ddechrau credu eich bod chi’n ddiffygiol o’ch cymharu â phobl eraill.
 
 
{{Cyngor meddygol Meddwl.org|http://meddwl.org/erthyglau/perffeithiaeth/|Sut i Oresgyn Perffeithiaeth?}}
 
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]
[[Categori:Erthyglau Meddwl.org]]
[[Categori:Iechyd meddwl]]