Ardudwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
trefnu, dolen, cat ayyb
Llinell 1:
Ardal hanesyddol yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Ardudwy''', a fu'n un o hen [[cantref|gantrefi]] [[teyrnas Gwynedd]] ac efallai'n mân-deyrnas annibynnol cyn hynny.
[[Cantref]] a ddaeth yn un o ddau [[Cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Dunoding]], gydag [[Eifionydd]], oedd '''Ardudwy'''. Pan greuwyd yr hen siroedd yn [[1284]] cafodd ei gynnwys yn [[Sir Feirionnydd]]. Roedd yn ymestyn o'r [[Traeth Mawr]] yn y gogledd i [[Afon Mawddach]] yn y de. Ffiniai â chwmwd Eifionydd yn Dunoding ei hun, [[Arfon]], a [[Nant Conwy]] yn [[Arllechwedd]] yn y gogledd. Yn y dwyrain rhannai ffin â chantref [[Penllyn]] ac yn y de â chwmwd [[Tal-y-bont (cwmwd)|Thal-y-bont]] yng nghantref [[Meirionnydd (cantref)|Meirionnydd]].
 
==Hanes a thraddodiadau==
[[Cantref]]Fel acantref canoloesol, ddaethdaeth yn un o ddau [[Cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Dunoding]], gydag [[Eifionydd]], oedd '''Ardudwy'''. Pan greuwyd yr hen siroedd yn [[1284]] cafodd ei gynnwys yn [[Sir Feirionnydd]]. Yn y 14eg ganrif collwyd ardal [[Nanmor]] i [[Sir Gaernarfon]]. Roedd Ardudwy yn ymestyn o'r [[Traeth Mawr]] yn y gogledd i [[Afon Mawddach]] yn y de. Ffiniai â chwmwd Eifionydd yn Dunoding ei hun, [[Arfon]], a [[Nant Conwy]] yn [[Arllechwedd]] yn y gogledd. Yn y dwyrain rhannai ffin â chantref [[Penllyn]] ac yn y de â chwmwd [[Tal-y-bont (cwmwd)|Thal-y-bont]] yng nghantref [[Meirionnydd (cantref)|Meirionnydd]].
 
Mae'n bosibl fod Ardudwy yn 'wlad' (teyrnas) annibynnol yn y Gymru gynnar. ''Túath'' yw'r gair [[Gwyddeleg]] sy'n cyfateb i 'wlad' / 'teyrnas' yn Gymraeg Canol; ei wraidd yw ''tud'', 'gwlad, pobl'. Dyna a geir yn yr enw Ardudwy (''ar'' + ''tud'' + ''-wy'') a meddylir fod yr enw yn dynodi'r llwyth a fu'n byw yn yr ardal.
Llinell 5 ⟶ 8:
Yn ddiweddarach cafodd Ardudwy ei rannu'n ddau gwmwd, gydag [[Afon Artro]] fel ffin rhyngddynt, sef [[Ardudwy Uwch Artro]] ac [[Ardudwy Is Artro]] (eto'n rhan o gantref Dunoding).
 
Tir gwyllt a mynyddig yw Ardudwy, gyda mynyddoedd y [[Rhinogau]]'n asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu [[Tomen y Mur]] a'r arfordir gan redeg trwy fwlch [[Drws Ardudwy]]. Eithriad yw'r gwastadeddau ar hyd yr arfordir lle ceir yr unig drefi o bwys heddiw. Er na fu erioed yn ardal gyfoethog mae'n llawn hanes a hynafiaethau. Yn [[Harlech]] yn Ardudwy mae llys [[Bendigeidfran]] yn [[Branwen ferch Llŷr|Ail Gainc y Mabinogi]]. [[Ystumgwern]], Is Artro, oedd [[maerdref]] y cwmwd.
 
===Ffynonellau===
*Geraint Bowen (gol.), ''Atlas Meironnydd'' (Y Bala, 1975)
*[[John Edward Lloyd]], ''A History of Wales'' (1911)
 
===Gweler hefyd===
* [[Cantrefi a chymydau Cymru]]
* [[Dunoding]]
* [[Phylipiaid Ardudwy]]
* [[Teyrnas Gwynedd]]
 
==Dolen allanol==
* [http://www.adnabodardudwy.org/tudalen-groeso?set_language=cy Adnabod Ardudwy]
 
 
[[Categori:Cantrefi Cymru]]
[[Categori:Cymydau Cymru]]
[[Categori:Daearyddiaeth Gwynedd]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]
[[Categori:Meirionnydd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]