Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymuned (Cymru)"

No change in size ,  10 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
'''Cymuned''' yw'r uned leiaf o [[Llywodraeth leol|lywodraeth leol]] yng [[Cymru|Nghymru]]. Hyd [[1974]], rhennid Cymru yn [[Plwyf|blwyfi sifil]] arat bwrpas llywodraeth leol. Roedd y rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan [[Deddf Llywodraeth Leol, 1972|Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972]], diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol - y fwyaf o ran poblogaeth yw [[Y Barri]] gyda phoblogaeth o 45,053 - hyd at o leiaf ddwy gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl, [[Bae Baglan]] a [[Morfa Margam]].
 
Gall pob cymuned gael [[Cyngor Cymuned]]. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Tref neu'n Gyngor Dinas lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: [[Tyddewi]] a [[Bangor]]. Rhennir dinasoedd mwy, megis [[Caerdydd]], yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinas neu Gyngor Tref yn [[Maer|Faer]]. Cynrychiolir cynghorau cymuned a thref Cymru gan [[Un Llais Cymru]].
6,737

golygiad