Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: vi:Ngày tiếng mẹ đẻ Quốc tế; cosmetic changes
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Diwrnod a gyhoeddwyd gan [[UNESCO]] i hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd yw'r '''Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol'''. Yn 1999, cyhoeddodd UNESCO [[21 Chwefror]] yn Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol, mewn teyrnged i [[Bhasha Andolon]] (Mudiad yr Iaith [[Bengaleg|Fengaleg]]), mudiad iaith ym [[Bangladesh|Mangladesh]], ac er mwyn cefnogi a hyrwyddo hawliau grwpiau ethnig-ieithyddol ledled y byd.
 
Yn 1948 roedd Bangladesh (Dwyrain Pacistan) yn rhan o wladwriaeth newydd [[Pakistan]]. Cyhoeddodd Llywodraeth [[Pacistan]] mai [[Wrdw (Urdu)]] — iaith Gorllewin Pacistan yn bennaf — yn unig fyddai'r iaith genedlaethol, ac arweiniodd hyn at brostestiadau niferus gan siaradwyr Bengaleg Dwyrain Pacistan. Yn wyneb hynny a'r tensiynau enwadol ac anfodlonrwydd cyffredinol am y ddeddf newydd, gwaharddodd y llywodraeth gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau. Ond penderfynodd myfyrwyr [[Prifysgol Dhaka]] ac ymgyrchwyr gwleidyddol eraill herio'r gyfraith a threfnu protest iaith ar 21 Chwefror 1952 yn y brifddinas, [[Dhaka]]. Torwyd y brotest i fyny gan yr heddlu a lladdwyd rhai o'r myfyrwyr. Arweiniodd y marwolaethau hynny at sefyllfa o ansefydlogrwydd sifil ar raddfa eang a arweinwyd gan y Cynghrair Mwslim Awami ([[Cynghrair Awami]] yn ddiweddarach). Ar ôl rhai blynyddoedd o wrthdaro, ildiodd y llywodraeth ganolog a rhoddwyd statws swyddogol i'r Fengaleg yn [[1956]].
 
Dethlir y Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol fel gŵyl gyhoeddus genedlaethol ym Mangladesh.