Brandi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
Codi tymheredd brandi
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
 
[[Gwirod]] a wneir o wahanol fathau o [[ffrwyth]]au, ond yn arbennig [[grawnwin]], yw '''brandi'''. Daw'r gair o'r [[Iseldireg]] ''brandewijn''. Mae'n cynnwys rhwng 35–60% o [[alcohol]], o ran ei gyfaint, (70–120 'prawf' [[UDA]]) a chaiff ei yfed, fel rheol, wedi cinio er mwyn cynorthwyo i dreulio'r bwyd.
 
Fel arfer, yfir brandi ar dymheredd yr ystafell, ond yn aml, fe'i rhoddir mewn gwydr llydan er mwyn i wres y llaw godi ei dymheredd ychydig. I gyflymu'r broses hon, gellir rhoi gwydriad o frandi yn y meicrodon am tuaf 5 eiliad.
 
Ceir llawer o wahanol fathau o frandi o rawnwin, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Cysylltir y ddiod yn arbennig a [[Ffrainc]], lle mae mathau enwog o frandi yn cynnwys [[Cognac (diod)|Cognac]] ac Armanac. Ymhlith y gwledydd eraill sy'n nodedig am gynhyrchu brandi mae [[Sbaen]], yn enwedig ardal [[Jerez de la Frontera]], ac [[Armenia]].<ref name="eb" /><ref name="BBC">{{cite web|url=http://www.bbc.co.uk/food/brandy |title=Brandy |publisher=BBC |accessdate=22 Gorffennaf 2014}}</ref> Cedwir y goreuon am gyfnod hir mewn casgenni prenb, derw, ond defnyddir 'caramel' ar eraill er mwyn tywyllu lliw'r hylif iddo edrych yn hen.