Dyfrbont Pontcysyllte: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sv:Pontcysyllteakvedukten
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 9:
Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn [[Ffowndri Plas Kynaston]], a thaflwyd pob uniad cynffonnog i fewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddwyd gwlân Cymreig wedi ei drochi mewn [[siwgr]] berwedig, ac wedyn eu seilio â [[Plwm|phlwm]]. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.
 
Yn ran o be'i elwyd yn wreiddiol, [[Camlas Llangollen|Camlas Ellesmere]], roedd yn un o gampweithiau cyntaf [[peirianneg sifil]] a gyflawnwyd gan y peiriannwr sifil enwog [[Thomas Telford]] (a gafodd ei orchwylio gan y peiriannwr camlas mwy profiadol, [[William Jessop]]). Cyflenwyd y haearn gan William Hazeldine o'i ffowndri yn [[Amwythig]] a gerllaw yng [[Cefn Mawr|Nghefn Mawr]]. Agorwyd y draphont ar [[26 Tachwedd]] [[1805]], ar ôl cymryd tua deng mlynedd a £47,000 i'w dylunio a'i hadeiladu.
 
Mae'r llwybr halio wedi ei gydbwyso drost y cafn, sydd yr un lled â'r draphont i alluogi i gychod cul symyd yn fwy rhydd drost y dŵr. Mae cerddwyr wedi eu amddiffyn gan rheiliau ar un ochr allanol y llwybr, ond ni ddefnyddwyth y tyllau ar gyfer y rheiliau ar ochr arall y llwybr. Gan fod ymyl y cafn ond chwe modfedd uwchben y dŵr, ac felly odan bwrdd y cychod cul, does dim byd rhwng gyrrwr y cwch a disgyniad anferthol i waelod y dyffryn.