Shwmae, Petroc2! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,376 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,


Croeso. Deb 17:05, 17 Mai 2008 (UTC)Ateb

Swydd Berks

golygu

Roedd erthygl am Berkshire yn bodoli'n barod felly dw i wedi ailgyfeirio Swydd Berks i'r erthygl hynny (dw i ddim yn meddwl bod Swydd Berks yn cael ei ddefnyddio fel enw ar y sir/swydd yn Gymraeg). Dw i ddim wedi ychwanegu y cynnwys greuaist ti ato, gan nad oeddwn o'r farn bod y cynnwys yn berthnasol i holl sir/swydd, ond dw i wedi ei gopio isod rhag ofn dy fod eisiau ei ail-ddefnyddio eto:

Swydd yn Ne Ddwyrain Lloegr. Roedd cartref y Cymro hoyw enwog Ivor Novello yno am y rhan fwyaf o'i yrfa theatr yn y pentre Littlewick Green
Prif dref y swydd yw Reading Berkshire gyda phoblogaeth o 145,000.

--Ben Bore 15:16, 2 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Ben Travers

golygu

Fi eto! Diolch am ychwanegu'r erthyglau newydd gyda llaw, ond dyma ychydig o tips. Er mwyn i bobl weld yr erthyglau ti wedi mynd i'r drafferth eu creu, mae'n syniad eu rhoi mewn categoriau perthansol. Hefyd, o ran arddull, dylai'r frawddeg cyntaf gyfeirio at pam mae'r person yn enwog, yna mynd ymlaen i s ôn am ei fywyd/bywyd mewn brawddegau pellach. Mae'r ddolen yma yn dangos y newidiau dw i wedi eu gwneud - efallai bydd o help i egluro beth dw i'n feddwl uchod. --Ben Bore 15:31, 2 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Bryn y Briallu

golygu

Erthygl ddiddorol iawn gen ti. Diolch. Llywelyn2000 08:08, 13 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb

Nodiadau Saesneg ayyb

golygu

Cofiwch fod gennym ni nodiadau Cymraeg yn lle'r rhai Saesneg a hefyd fod y categorïau i gyd yn Gymraeg (heblaw y rhai sy 'mond yn cynnwys enwau lleoedd). Mae'n well peidio rhoi'r rhai Saesneg i mewn o gwbl am eu bod yn gadael dolenni coch trwy'r erthygl i gyd ac yn creu cryn dipyn o waith i'w cywirio. Pwynt arall am y categoriau: fel y wicipediau eraill i gyd bron, rydym yn defnyddio system sy'n llai cymhleth o lawer na'r un ar y wicipedia Saesneg, a hynny am sawl rheswm (diffyg erthyglau ac amser yn bennaf): yr unig eithriad yw'r categorïau sy'n ymwneud â Chymru, am fod gennym mwy o erthygau mewn rhai meysydd Cymreig nag sy ganddyn nhw ar 'en:' (braf bod ar y blaen mewn rhai pethau!). Cofiwch ofyn os oes angen cymorth. Hwyl, Anatiomaros 22:51, 26 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb

Medal Ryddiaeth

golygu

Ti wedi bod yn brysur yn ehangu ar yr erthygl, ond rwyt wedi nodi dau enw ar gyfer 1978. Pa un sy'n gywir? --Ben Bore 13:28, 2 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Mae rhywun wedi gosod llyfr anghywir, nid y fi ond mae . Y Ddaeargryn Fawr wedi ennill, mae gen i gopi hefyd, yn ffoddus mae rhywun aralll wedi dileu y llyfr anghywir - dwi'n ceisio osgoi dileu gwaith pobl eraill - tasg i'r rhai mwy profiadol yw hynny
Paid bod ofn, dileu gwaith rhywun arall os oes gyda ti reswm da i wneud hynny, ac yn anwedig os wyt ti'n 100% bod y wybodaeth yn anhywir. Gallwn ddadwneud unrhyw olygiadau yma ta beth os oes angen.--Ben Bore 19:22, 22 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

John Mathias a J. R. Woodhouse

golygu

Mae cynnwys y ddau erthygl fwy neu lai yn dweud yn union yr un peth, ond dw ddim yn siwr pwy sydd wedi cyfieithu beth.--Ben Bore 19:22, 22 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Pwll tywod

golygu

Efallai roeddet ti'n chwilio am y Pwll tywod go iawn, Petroc? Dwi wedi dileu'r dudalen 'Pwll tywod' am ei fod yn cyfrif fel "erthygl". Cofia, os wyt ti eisiau arbrofi fel hyn, yn ogystal â defnyddio'r Pwll tywod go iawn mae'n bosibl creu estyniad i dy dudalen defnyddiwr, e.e. trwy teipio hyn - Defnyddiwr:Petroc/Pwll tywod - yn y blwch chwilio a chreu'r dudalen. Dydy tudalen o'r fath ddim yn cyfrif fel erthygl a dim yn rhan o'r prif system a chei di sgwennu unrhywbeth rwyt ti'n dymuno yno. Hwyl, Anatiomaros 23:21, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Manylion coll am File:Tshingiz Aitmatof.jpg

golygu
Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil yr uwchlwythoch (File:Tshingiz Aitmatof.jpg) neu mae'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill ar ei thudalen disgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir gwybodaeth, efallai enwebir y ddelwedd am ddilead, sy'n sefyllfa nad yw'n ddymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:45, 17 Mai 2011 (UTC)Ateb

-- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:45, 17 Mai 2011 (UTC)Ateb

Manylion ffeiliau coll

golygu

Helo, Petroc2, sut mae? Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr ichi am gyfrannu at y Wicipedia Cymraeg - rydym yn gwerthfawrogi cymorth gan unrhyw un gan mai prosiect cymunedol ydyw. Wedi dweud hynny, rydych wedi bod yn uwchlwytho lluniau/delweddi nad ydynt yn cynnwys disgrifiadau digon manwl, sy'n colli ffynonellau, awdur/on, ayyb. Mae'n rhaid gwybod, felly, bod modd iddynt gael eu dileu oddi wrth y Wicipedia hwn os nad ydych yn darparu'r wybodaeth gywir - gallwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn ei uwchlwytho drwy ddefnyddio'r offeryn yma. Diolch am eich cyd-weithrediad, -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:46, 17 Mai 2011 (UTC)Ateb

Ffeiliau

golygu

Gweler eich tudalen sgwrs Defnyddiwr:Enw defnyddiwr/Ffeiliau am ragor o wybodaeth. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:42, 24 Mai 2011 (UTC)Ateb

Manylion coll am File:William Curtis.png

golygu
Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil yr uwchlwythoch (File:William Curtis.png) neu mae'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill ar ei thudalen disgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir gwybodaeth, efallai enwebir y ddelwedd am ddilead, sy'n sefyllfa nad yw'n ddymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 02:58, 5 Mehefin 2011 (UTC)Ateb

You are invited!

golygu
 
You are invited...
 

The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.

  • Hosts: The University of Edinburgh and Wikimedia UK
  • Supporting: Celtic & Indigenous Languages.
  • Objective: The main objective for Celtic Knot 2017 is the coming together of practitioners in the same room at same time; strengthening the bonds of those working to support language communities into a 'knot' and leading into action. Attendees can expect to learn about and discuss innovative approaches to open education, open knowledge and open data that support and grow language communities.
  • Date: 6 July 2017 - Booking is now open.

Stinglehammer (sgwrs) 22:51, 22 Mai 2017 (UTC)Ateb

Sefydlu grwp newydd: Wikimedia neu Wicimedia Cymru

golygu

Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Gweler: Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:28, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)Ateb

Margaret Steuart Pollard

golygu

Mae dy erthygl Margaret Steuart Pollard yn hynod ddiddorol! Dw i wedi newid rhyw fanion - os wnei di fwrw golwg rhag ofn mod i wedi camgywro (!) mi faswn yn ddiolchgar iawn! Yn y cyfamser mi geisia i ffindio llun arall ohoni - heb y mwgwd! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:53, 11 Mawrth 2018 (UTC)Ateb

Community Insights Survey

golygu

RMaung (WMF) 16:17, 9 Medi 2019 (UTC)Ateb

Reminder: Community Insights Survey

golygu

RMaung (WMF) 19:46, 20 Medi 2019 (UTC)Ateb