[[Delwedd:Usain Bolt Olympics Celebration.jpg|bawd|200px|Usain Bolt yn y Gemau Olympaidd 2008]]
MaeSbrintiwr o [[Jamaica]] ydy '''Usain Bolt''' (ganed [[21 Awst]], [[1986]]) yn sbrintiwr o [[Jamaica]]. Mae Bolt yn dal record byd ac Olympaidd am y [[100 metr]] sef 9.69 eiliad. Mae hefyd yn dal y record byd am [[200 metr]] sef 19.30 eiliad. Hefyd gyda chyd-aelodau o'i dîm yn dal record byd y ras gyfnewid 4x100 metr sef 37.10 eiliad. Cafodd y rhain i gyd eu gosod yng [[Gemau Olympaidd yr Haf 2008|ngemau Olympaidd Beijing yn Haf 2008]]. Daeth Bolt y dyn cyntaf i ennill y dair cystadleuaeth mewn un gemau Olympaidd ers [[Carl Lewis]] yn [[Gemau Olympaidd yr Haf 1984|Los Angeles yn 1984]]. Daeth hefyd y dyn cyntaf mewn hanes i osod record byd ym mhob un o'r cystadleuaethaucystadlaethau mewn un gemau Olympaidd. Mae ei enw ac ei gampau mewn gwibio yn golygu ei fod wedi cael y llysenw ''Lightning Bolt''.