Dewiniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 28:
Mae damcaniaethau seicolegol ar ddewiniaeth yn ei thrin fel ffenomen bersonol sy'n ceisio cwrdd ag anghenion unigol, mewn cyferbyniad â ffenomen gymdeithasol sy'n ceisio cwrdd ag anghenion cymunedol. Mae damcaniaethau seicolegol yn amrywio o weld dewiniaeth fel [[newrosis]], neu weld dewiniaeth fel gwyddoniaeth drwg, i weld dewiniaeth fel cais i drin gorbryder.
 
===Gwreiddiau anthropolegol a seicolegol===
[[Delwedd:Urarina_shaman_B_Dean.jpg|thumb|[[Siamanaeth|Siaman]] y llwyth [[urarina]], [[1988]].]]
Mae'r cred y gellir dylanwadu ar bwerau goruwchnaturiol drwy weddïo, offrymu neu gyda blaenweddïadau yn dyddio'n ôl i [[crefydd gynhanesyddol|grefydd gynhanesyddol]] ac i'w weld mewn cofnodion cynnar megis [[testunau'r pyramidau]] a'r [[Veda]].
 
Yn ôl [[James Frazer]], mae'r meddylfryd sydd yn sylfaen i'r gydsyniad o ddewiniaeth yn tarddu o gyfuniad o ymarferion a chredoau y mae unigolion mewn cymdeithas yn troi atynt er mwyn gwneud lles neu gyrraedd nod, naill ai fel grŵp pan fo rhwystr naturiol yn effeithio yn llym ar gymdeithas (sychder neu anffrwythlonder) ynteu fel unigolyn pan fo angen, er enghraifft, cael gwared o elyn.
 
Yn ôl Frazer ceir dau fath o ddewiniaeth.
 
* Dewiniaeth sympathetig, lle mae'r cyffelyb yn cynhyrchu'r cyffelyb, sef lle mae efelychiad o weithred yn cael yr un effeithiau ar wrthrych penodol â'r gweithred go iawn.
 
* Dewiniaeth ddifwynol, lle mae pethau a oedd mewn cysylltiad â gwrthrych yn dal yn gysylltiedig â'r gwrthrych yn dragwyddol, ac felly gellir defnyddio'r pethau i gael effaith ar y gwrthrych serch y pellter rhyngddynt mewn amser a gofod.
 
== Cyfeiriadau ==