Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bulkeley (teulu)"

Ychwanegwyd 4 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
O ddwyrain [[Swydd Gaer]] yn [[Lloegr|Lloegr]] y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn [[1450]]. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd [[ William Bulkeley]], y dyddiadurwr.
 
Bu aelod o brif gangen y teulu, [[Arthur Bulkeley]], yn [[Esgob Bangor]] rhwng [[1541]] a [[1552]]. Adeiladwyd plasdy Baron Hill gyntaf yn [[1618]] gan Syr [[Richard Bulkeley (bu farw 1621)]]. Gwnaed ei fab, [[Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley|Thomas]] (1585-1659), yn [[Is-iarll Bulkeley]].
 
Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeisdrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y [[16eg ganrif]] hyd ganol y [[19eg ganrif]]. Torïaid uchel oeddynt o ran gwleidyddiaeth, ac yn y [[18fed ganrif]] amheuid hwy o gydymdeimlad a [[Jacobitiaeth]]. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Is-iarll [[Thomas Bulkeley, 7fed Is-iarll Bulkeley|Thomas Bulkeley]] heb blant yn [[1822]]. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.
37,236

golygiad