Dewiniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Cywiro cywiriadau
Llinell 3:
'''Dewiniaeth''', (hefyd '''dewindabaeth''', '''hudoliaeth''', '''y gelfyddyd''' a '''swyngyfaredd''') yw'r term am ddylanwadu ar ddigwyddiadau, gwrthrychau, pobl a ffenomena trwy foddion goruwchnaturiol, paranormal neu gyfriniol. Gallai hefyd cyfeirio at yr ymarferion a ddefnyddir i wneud hynny, a'r credau sy'n defnyddio'r rhain i esbonio digwyddiadau a ffenomena. Mewn termau [[Ocwlt|ocwltwyr]] modern, dewino yw'r weithred o gyfuno'r bydol â'r arucheler mwyn canolbwyntio'r ewyllys fel y caiff ddylanwad ar ddigwyddiad, gwrthrych, a bodau. Yn aml mae [[cyfriniaeth]], [[ocwlt|ocwltiaeth]], [[crefydd]], [[gwyddoniaeth]] a [[seicoleg]] yn dylanwadu ar ddewiniaeth.
 
Un o nodweddion sylfaenol dewiniaeth yw'r gred y gall efelychiad o weithred cael yr un effeithiau â'r weithred go iawn. Gwneir hynny drwy gyfatebiaeth symbolaidd. Enghraifft o hynny yw "lladd" neu niweidio dol gwyr sy'n cynrychioli person go iawn, yn y cred y byddai'r fath efelychiad yn cael effaith cyffelyb ar y person hwnnw. Gelwir y cydsyniad hwn "dewiniaeth sympathetig". Mae dewiniaeth sympathetig yn ffurfio rhan hanfodol o bron bob math o ddewiniaeth, o [[Siamanaethsiamanaeth]] i ddewiniaeth ddefodol, sy'n ffocysu ar y defnydd o ddefodau llawn cyfatebiadau symbolaidd cymhleth er mwyn dewino, yn ogystal â mewn defodau crefyddol megis yr [[offeren]] [[Cristnogaeth|Gristnogol]].
 
Yn aml defnyddir technegau i weld pethau tu hwnt i'r dewin mewn gofod ac amser, yn bennaf i d[[darogan]] y dyfodol. Roedd unwaith adeg yng [[Cymru|Nghymru]] pryd byddai darogan yn rhan barchus, gydnabyddedig o fywyd cymdeithas, fel mae sylwadau Gerallt Cymro ynglŷn ag [[awenyddion]]<ref>Thomas Jones (cyf.), ''Gerallt Gymro'', Caerdydd, 1938.</ref> a hanes [[Dyn Hysbys|dynion hysbys]] yng Nghymru yn tystio. Yn ôl tystiolaeth gynnar, roedd darogan yn rhan sylfaenol o fywyd crefyddol y [[Celtiaid]], gyda ''vates'' ([[Gâl]]) a ''fili'' ([[Iwerddon]]) yn gyfrifol amdano gan amlaf. Byddai rhai yn derbyn eu gwybodaeth am y dyfodol drwy arsylwadau o ehediadau a galwadau adar. Dull arall ymhlith y Celtiaid oedd darogan yn ôl breuddwydion neu weledigaethau a gafwyd mewn llewyg, neu "swyn-gwsg".<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''[[Byd y Dyn Hysbys]]: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 83-84 , Y Lolfa 1977.</ref>