Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: pnb:دارجلنگ; cosmetic changes
Llinell 4:
Mae'r enw yn llygriad o'r enw [[Tibeteg]] ''Dorje-ling'' ("mangre'r taranfollt"). Mae mwyafrif y boblogaeth o dras Nepalaidd ac yn siarad [[Nepaleg]]. Ceir hefyd nifer sylweddol o [[ffoadur]]iaid [[Tibet]]aidd ynghyd â chanran isel o [[Bengalwr|Fengalwyr]] a phobl o rannau eraill o India. Yn ogystal ceir rhai pobl [[Lepcha]], trigolion brodorol Sikkim a'r cylch, yn byw yn y bryniau. Mae'r [[economi]] yn seiliedig ar dyfu [[te]].
 
== Hanes Darjeeling ==
=== Y cefndir ===
[[Delwedd:Tiger_Hill.JPG|300px|bawd|Golygfa dros '''Darjeeling''' gyda [[Kanchenjunga]] yn y cefndir, o Tiger Hill]]
Hyd at ddechrau’r [[18fed ganrif]] yr oedd bryniau Darjeeling a Kalimpong yn rhan o [[Sikkim]]. Yn [[1706]] collodd Sikkim ardal Kalimpong i [[Bhutan]] ac yn [[1780]] cipiodd rheolwyr Gorkhaidd [[Nepal]] weddill y diriogaeth. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y [[Gorkha|Gorkhiaid]] a’r [[British East India Company]] a reolai [[Bengal]] ar y pryd. Ar ôl cyfres o fân ryfeloedd gorchfygwyd y Gorkhiaid a meddianwyd yr ardal i’r de o Darjeeling gan y Cwmni dan gytundeb â Sikkim a olygodd hefyd fod y [[Prydain|Prydeinwyr]] yn gwaranti [[sofraniaeth]] Sikkim ac yn cyfryngu rhwng y wlad honno a’i chymdogion.
Llinell 11:
Yn [[1828]] anfonwyd dau swyddog Prydeinig i asesu’r sefyllfa yn ardal Darjeeling. Awgrymodd y swyddogion y byddai Darjeeling yn safle ardderchog i godi iechydfa a brynfa, ar lun y rhai yr oedd y Prydeinwyr eisoes wedi’u sefydlu yn [[Shimla]], yn [[1819]], ac yn llefydd eraill yng ngogledd-orllewin India, lle gallai swyddogion y Cwmni a’u teuluoedd ddianc o dro i dro rhag gwres a lleithder Bengal. Ar sail adroddiad y swyddogion aeth yr awdurdodau yn [[Calcutta]] ati i berswadio [[raja]] Sikkim i roi Darjeeling i’r Prydeinwyr yn gyfnewid am stipend flynyddol o 3000 [[Rupee]] (a godwyd i Rs 6000 yn [[1846]]). Yn ogystal â bod yn safle dymunol ar gyfer yr iechydfa byddai hynny'n rhoi cyfle i’r Prydeinwyr gadw golwg ar weithgareddau Nepal a Bhutan ac yn eu galluogi i reoli’r fasnach bwysig rhwng dwyrain India a [[Tibet|Thibet]].
 
=== Prydain a Sikkim ===
Ofnai’r [[Tibetwr|Tibetwyr]] fod [[Prydain]] yn ceisio meddianu Sikkim, a oedd yn [[deiliad|ddeiliad]] i Dibet, gyda’r bwriad o ymestyn eu dylanwad i Dibet ei hun. Ar sawl ystyr roeddent yn llygad eu lle canys dirywiodd economi [[Lhasa]] a dwyrain Tibet a dechreuodd cynnyrch rhad y [[gerddi te]] newydd yn Darjeeling ddisodli’r te drytach a oedd yn cael ei fewnforio i Dibet o [[Tseina]]. Roedd Sikkim ei hun yn rhanedig gyda [[plaid|phlaid]] ddylanwadol, a arweinwyd gan y [[prif weinidog]], yn ceisio rhwystro’r raja rhag ildio rhagor i’r Prydeinwyr. Pan arestiwyd y botanegydd [[Joseph Hooker]] a Dr Campbell, swyddog gweinyddol yn Darjeeling, gan y blaid wrth-Brydeinig wrth iddynt ymweld â Sikkim yn [[1849]] dan gytundeb rhwng y raja a’r Prydeinwyr gwaethygodd y sefyllfa. Ildiodd y Sikkimiaid i fygythion milwrol y Prydeinwyr, rhyddheuwyd y gwystlon a chyfeddianwyd yr hyn a oedd yn weddill o diriogaeth Sikkim i’r de o’i ffin bresennol. Cynddeiriogwyd y Tibetwyr, a ofnai gael eu gwasgu oddi ar y map gwleidyddol yn ysglyfaeth i’r [[Y Gêm Fawr|Gêm Fawr]] rhwng Prydain, [[Rwsia]] a Tseina am reolaeth yng [[Canolbarth Asia|Nghanolbarth Asia]], ac yn [[1886]] anfonodd Tibet gwmni o filwyr i Sikkim. Fe’u gorchfygwyd yn rhwydd gan gatrawd o filwyr Prydeinig a gorfodwyd y Tibetwyr i ildio ei hawl ar Sikkim gan y [[llu ymgyrch]] Prydeinig a anfonwyd i Lhasa yn [[1888]]. Parhaodd Darjeeling i ffynnu ac mae’n dal i gael ei rheoli o Calcutta heddiw, fel rhan o dalaith Gorllewin Bengal.
 
Er bod pentref bach wedi bodoli yn Darjeeling cyn rhyfeloedd Sikkim â Nepal a Bhutan yn y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth y Prydeinwyr yno dim ond [[mynachlog]] Dibetaidd oedd ar y bryn coediog. Tyfodd Darjeeling yn gyflym. Agorwyd ffordd iddi yn [[1840]] ac erbyn [[1857]] roedd ganddi boblogaeth o ryw 10,000. Roedd llawer o’r bobl hyn yn [[Nepalwr|Nepalwyr]], o dras Gorkhaidd yn bennaf, a ddenwyd i weithio yn y gerddi te a oedd yn ymledu dros y bryniau. Erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn Nepalwyr a’r [[Nepaleg]] yw prif iaith y bryniau.
 
=== Gorkhaland ===
Ar ôl [[annibyniaeth]] India cryfhaodd y teimlad fod [[llywodraeth]] bell Gorllewin Bengal yn gwahaniaethu yn erbyn y Gorkhiaid gan fod rhaid iddynt ddysgu [[Bengaleg]] i gael swyddi gan y llywodraeth ac nid oedd statws i’r Nepaleg o gwbl. Daeth pethau i’w pen yn yr [[1980]]au pan welwyd terfysg ar raddau mawr yn y bryniau. Collodd rhai cannoedd o bobl eu bywydau a bu’n rhaid i fyddin India symud i mewn i adfer rheolaeth. Y brif blaid y tu ôl i’r helyntion hyn oedd y [[Gorkha National Liberation Front]] (GNLF), dan arweiniad Subash Ghising, a oedd yn galw am sefydlu [[talaith]] [[ffederal]] annibynnol, o fewn India, dan yr enw [[Gorkhaland]]. Yr oedd [[Plaid Gomiwnyddol]] (Farcsaidd) India (CPI-M) yn gyfrifol am lawer iawn o’r trais hefyd. Yn dilyn trafodaethau â’r llywodraeth ganolog cytunwyd ar gyfaddawd a sefydlwyd y Darjeeling Gorkha Hill Council (DGHC) yn 1988. Erys Darjeeling yn rhan o Orllewin Bengal ond erbyn hyn mae’n mwynhau llawer mwy o reolaeth ar faterion lleol. Serch hynny mae’r ymgyrch i greu Gorkhaland yn parhau ac yn dominyddu bywyd gwleidyddol Darjeeling heddiw.
 
Llinell 24:
 
== Llyfryddiaeth ==
* K.C. Bhanja, ''History of Darjeeling and the Sikkim Himalaya'' (Delhi Newydd, 1993). ISBN 812120441081-212-0441-0
* L.S.S. O'Malley, ''Darjeeling District Gazetteer'' (1907; adargraffiad Delhi Newydd, d.d.). ISBN 812120496881-212-0496-8
* Fred Pinn, ''The Road of Destiny'' (Calcutta, 1986).
* H.H. Risley (gol.), ''The Gazetteer of Sikhim'' (1928; adargraffiad Delhi, 1999). ISBN 818614250981-86142-50-9
* Jahar Sen, ''Darjeeling[:] A Favoured Retreat'' (Delhi Newydd, 1989). ISBN 818518215981-85182-15-9
 
 
[[Categori:Dinasoedd India]]
Llinell 73 ⟶ 72:
[[pam:Darjeeling]]
[[pl:Dardżyling]]
[[pnb:دارجلنگ]]
[[pt:Darjeeling]]
[[ro:Darjeeling]]