Gorllewin Fflandrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:BelgiumWestFlanders.png|bawd|240px|Lleoliad talaith Gorllewin Fflandrys]]
 
Un o ddeg talaith [[Gwlad Belg]] yw talaith '''Gorllewin Fflandrys''' ([[Iseldireg]]: ''West-Vlaanderen''). Hi yw'r dalaith fwyaf gorllewinol yn rhanbarth [[Fflandrys]] yng ngogledd y wlad, a'r inig un o daleithiau Gwlad Belg sydd ar yr arfordir. Mae'n ffinio ar [[Ffrainc]] yn y gorllewin a'r [[Iseldiroedd]] yn y dwyrain. Y brifddinas yw [[Brugge]], ac ymhlith y dinasoedd eraill mae [[Kortrijk]], [[Oostende]] a [[Roeselare]]; mae Oostende a [[Zeebrugge]] yn borthladdoedd pwysig.
 
Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,144 km², y fwyaf o daleithiau Fflandrys, a phoblogaeth o 1,130,040. Fel yn holl daleithiau Fflandrys, Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol; siaredir y dafodiaith [[Fflemeg Orllewinol]] yn bur gyffredin.