Plaid Unoliaethol Ulster: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: it:Partito Unionista dell'Ulster
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Plaid [[Unoliaethwr|Unoliaethol]] yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]] yw '''Plaid Unoliaethol Ulster''' ([[Saesneg]]: ''Ulster Unionist Party'' neu '''UUP''').
 
Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn [[1921]], cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 sir o Iwerddon yn annibynnol yn [[1922]] fel [[Gweriniaeth Iwerddon|Gwladwriaeth Rydd Iwerddon]], tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio [[Wlster]]) yn rhan o’r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig. Daeth Syr [[James Craig]] yn Brif Weinidog. O [[1929]] ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.
Llinell 5:
Dros y blynyddoedd bu trigolion [[Eglwys Gatholig|Catholig]] Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog [[Terence O'Neill]] newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, [[James Chichester-Clark]], ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis [[Ian Paisley]].
 
[[David Trimble]] oedd arweinydd y blaid rhwng [[1995]] a [[2005]]. Roedd ei gefnogaeth i [[Cytundeb Belffast|Gytundeb Belffast]] yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn [[Etholiad Cyffredinolcyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005]], collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i [[Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd|Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd]].
 
 
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon]]
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
{{eginyn Gogledd Iwerddon}}
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon]]
 
[[ar:حزب ألستر الوحدوي]]