Huang He: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bo:རྨ་ཆུ།
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Afon ail-hiraf [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] yw'r '''Huang He''' (黃河, ''Huánghé''), trawslythrennir hefyd fel '''Huang Ho''', yr '''Afon Felen'''. Mae'n 5464 km o hyd; dim ond [[afon Yangtze]] sy'n hirach. Saif yn chweched ymysg afonydd y byd o ran hyd.
 
Ceir tarddiad yr afon ym mynyddoedd [[Bayankera]] yn nhalaith [[Qinghai]], 4500 medr uwch lefel y môr. Llifa tua'r dwyrain trwy saith talaith a dau ranbarth ymreolaethol: Qinghai, [[Sichuan]], [[Gansu]], [[Ningxia]], [[Mongolia Fewnol]], [[Shaanxi]], [[Shanxi]], [[Henan]], a [[Shandong]]. Mae ei haber yn [[Dongying]], Shandong, lle mae'n llifo i mewn i [[Môr Bohai|Fôr Bohai]]. Y prif ddinasoedd ar yr afon yw [[Lanzhou]], [[Wuhai]], [[Baotou]], [[Kaifeng]], [[Luoyang]], [[Zhengzhou]] a [[Jinan]].
 
Mae ei dalgylch yn 944,970 cilomedr sgwar, ond gan fod hinsawdd y rhan fwyaf o'i dalgylch yn sych, heblaw y rhan ddwyreiniol yn Henan a Shandong, mae llai o ddŵr ynddi na nifer o afonydd eraill Tsieina. Daw'r enw "yr Afon Felen" o liw y dyfroedd.