Pensaernïaeth Gothig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
B Iaith
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Paris.notre.dame.750pix.jpg|thumb250px|rightbawd|de|Eglwys gadeiriol [[Notre Dame]], [[Paris]]]]
 
Arddull [[CanolYr Oesoedd Canol|canoloesol]] o [[pensaernïaeth|bensaernïaeth]] yw '''Gothig'''. Datblygodd yn [[Ffrainc]] yn y [[12fed ganrif]] o'r arddull Romanesg (a elwir yn [[Normanaidd]] yn [[Prydain|Ynysoedd Prydain]]) ac yna lledodd drwy [[Ewrop]] gyfan. Tra'r oedd [[pensaernïaeth Romanesg]] yn seiliedig ar ddulliau adeiladu'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]], roedd Gothig yn seiliedig ar dechnegau newydd, yn bennaf y [[bwa]] pwyntiog. Drwy ddefnyddio bwâu pwyntiog roedd yn bosib adeiladu ffenestri llawer mwy nag o'r blaen ac mae [[ffenestri lliw]] trawiadol yn nodweddiadol o [[eglwys|eglwysi]]'r cyfnod.
 
==Arddulliau Gothig lleol==
Roedd cymeriad gwahanol iawn gan arddulliau Gothig lleol gwahanol wledydd – er enghraifft, yn [[yr Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]] roedd briciau yn ddeunydd poblogaidd, tra bod [[gwenithfaen]] yn cael ei ddefnyddio ar gyfer [[eglwys gadeiriol|cadeirlannau]] Ffrainc a [[Lloegr]].
 
==Yr Adfywiad Gothig==
O'r [[Dadeni Dysg]] ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan fathwyd y term "Gothig" tua'r un adeg, roedd yn derm dirmygus yn cyfeirio at y [[Gothiaid]]) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y [[19eg ganrif]], pan ddatblygodd delwedd ramantaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym [[Prydain|Mhrydain]]. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y [[Chwyldro Diwydiannol]] roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a [[Cristnogaeth|Christnogaeth]] [[yr Oesoedd Canol]], a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes. Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a [[prifysgol|phrifysgolion]] yn yr [[20fed ganrif]].
 
{{stwbyn}}