Croeso. Deb 21:46, 13 Gorffennaf 2006 (UTC)Ateb


Categoriau golygu

S'mai, be oedd y rheswm ddileu'r categori yma? A'i camgymeriad oedd o neu wnesi i rhywbeth o'i le?--Ben Bore 15:28, 13 Medi 2007 (UTC)Ateb

Mae'n well defnyddio categorïau mawr (neu categorïau a fydd yn tyfu i fod yn fawr) fel categori Prifysgolion ar gyfer categorïau eraill neu ar gyfer erthyglau sy'n trafod agweddau cyffredinol ar y pwnc. Fel arall, mae'r categorïau hyn yn gorlenwi ac yn dod yn ddiwerth. Mae'r erthygl Prifysgol Toronto yn y categori Prifysgolion Canada, ac mae'r categori Prifysgolion Canada yn perthyn i'r categori Prifysgolion. Felly mae'n well osgoi rhoi Prifysgol Toronto (a phob prifysgol unigol arall) yn y categori Prifysgolion. Rhyw ddydd, wnawn ni greu categori Prifysgolion Ontario, a bydd Prifysgol Toronto yn diflannu o'r categori uwch, Prifysgolion Canada (ond fe fydd Prifysgolion Ontario yn perthyn i'r categori Prifysgolion Canada). Yn y bôn, y syniad yw bod rhaid meddwl am berthynas y categorïau a'i gilydd. Mae'r un peth wrth gwrs yn digwydd ymhobman ar Wicipedia - dyw Rhodri Morgan ddim yn mynd i mewn i'r categori Gwleidyddion ond i gategorïau mwy penodol megis Gwleidyddion Cymru neu Prif Weinidogion Cymru, ayyb. Daffy 22:40, 13 Medi 2007 (UTC)Ateb
Diolch am yr esboniad. Mae hynny'n ddigon teg ag yn gwneud synnwyr. Yr rheswm oeddwn i'n cwestiynnu'r peth oedd achos bod yna sawl prifysgol arall o fewn y caregori, ond dwi'n cymeryd bydd rhain yn difladu wedi ail-drefnu'r categoriau.--Ben Bore 10:41, 14 Medi 2007 (UTC)Ateb

Ffynhonell afon golygu

Os dwi'n cofio'n iawn, o fy hen wersi Daearyddiaeth TGAU, 'tarddiad' yw'r term Gymraeg am 'river source' (wedi bod yn darllen rhai o dy gyfraniadau am afonydd Rwsia!)

Ti'n iawn. Diolch, Ben. Daffy 14:02, 26 Awst 2007 (UTC)Ateb

Hello and thank you golygu

Thanks for noticing and correcting a slight grammatical gaff in my entry on Sikkim. Are you planning anything on Russian literature?

--Anatiomaros 17:35, 21 Awst 2006 (UTC)Ateb

Rwsia, Cymru a'r Blaned Mawrth golygu

Fel ti dwi'n tueddu i gyfrannu i'r wiki yn fympwyol braidd. Fy mhrif ddiddordebau yw llên a hanes, o Gymru hyd Siapan, gyda'r pwyslais ar y cyfnodau cynnar, ond dwi'n hoff o newid yn gwfangwbl weithiau, cyn belled mod i'n gwybod rhywfaint am y pwnc dan sylw. Dwi hefyd yn ceisio cywirio rhai o'r gwallau niferus sy'n dod i fyny a gwella rhai o'r stybiau, ond mae rhai o' nhw'n anobeithiol! Gyda llaw, wyt ti wedi gweld y stwbyn diweddaraf, HOYEN MATURE??!!!!! Be di hynny - Mawrtheg / iaith y blaned Mawrth?! Rhaid bod rhywun yn tynnu coes - neu'n anhygoel o dwp! Tybed ai "Hoywon Mature" a olygir? Y cwbl mae'n ddeud ydi "RYDCH CHI WEDI 7", sydd efallai'n golygu "Rydych chi (yn medru cael perthynas hoyw yn gyfreithlon) ar ôl cyrraedd (1)7 oed". Neu efallai dim! Dim o bwys beth bynnag, jest dwi'n methu deall agwedd rhai pobl. I ddod yn ôl at lenyddiaeth Rwseg; does gennyf ddim bwriad penodol i sgwennu llawer amdani ar hyn o bryd ond pwy a ŵyr? Rhyw ddydd... Chwedlau gwerin Rwsia, efallai? Ond lle mae dechrau ar bwnc mor anferth? A wel, nôl i chwilio am fylchau am awr neu ddwy cyn ei throi hi. Hwyl a diolch am y neges. Fôn. Anatiomaros 20:00, 23 Awst 2006 (UTC)Ateb

Enwau lleoedd golygu

Pam wnest ti symud "Y Tir Newydd a Labrador" i "Newfoundland a Labrador" ac "Ynys y Tywysog Edward" i "Prince Edward Island", a newid "Caerfuddai" i "Chicester"? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 10:23, 4 Medi 2006 (UTC)Ateb

Tri rheswm:
  1. Yn ôl canllawiau arddull y Wicipedia Cymraeg, dylid dilyn yr Atlas Cymraeg Newydd. Yr hyn a geir yno am y llefydd hyn yw Newfoundland, Prince Edward Island (ynghyd â'u cyfieithiadau Ffrangeg) a Chichester (dim Cymraeg, er bod yr Atlas yn defnyddio ffurf Gymraeg ar enwau lleoedd yn Lloegr ym mhob achos arall).
  2. Yr unig reswm a wela i dros anwybyddu'r Atlas byddai pe bai defnydd y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn groes i awgrymiadau'r Atlas. Ond mae chwiliadau Google yn cytuno mwy neu lai â'r Atlas:
    • yn Chichester -wikipedia: 9 enghraifft yn eglur yn Gymraeg, yng Nghaerfuddai -wikipedai: dim
    • yn/ar Newfoundland -wikipedia: 13 (gan gynnwys un gan Fwrdd yr Iaith yn cyfeirio at y dalaith fel Newfoundland a Labrador: www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/download.php?id=1825.2), yn/ar y Tir Newydd: dim yn cyfeirio at Newfoundland
    • mewn achos Prince Edward Island, mae'n anodd dweud: ceir dim enghreifftiau o yn/ar Ynys y Tywysog Edward na yn/ar Prince Edward Island. Ceir un enghraifft o ar Ynys Prince Edward. Ar gyfer Ynys y Tywysog Edward ei hun (-wikipedia), does dim enghreifftiau o gwbl; mae Ynys Prince Edward -wikipedia yn ymddangos dwywaith; wrth gwrs, mae'n amhosib gwahaniaethu rhwng Prince Edward Island ar dudalennau Cymraeg ac enghreifftiau ar dudalennau Saesneg.
  3. Dyw'r termau hyn ddim yn draddodiadol ar gyfer y llefydd hyn yn y Gymraeg. Wn i ddim pwy fathodd Caerfuddai ar gyfer Chichester ond dyw hi ddim yn draddodiadol (yn wahanol i enwau lleoedd eraill megis Caerlŷr a Caerloyw). Bathwyd y Tir Newydd gan Bruce Griffiths yng Ngeiriadur yr Academi, ac mae canllawiau Wicipedia yn awgrymu rhoi'r flaenoriaeth i'r Atlas.
Felly... dwi'n gweld lle i ddadlau dros Ynys Prince Edward yn hytrach na Prince Edward Island. Yn yr achosion eraill, does dim sail dros ddefnyddio'r termau wedi'u Cymreigio. Oes rhesymau 'da ti dros ffafrio'r termau Cymreigedig? Daffy 14:19, 4 Medi 2006 (UTC)Ateb

Su' mae golygu

Mae'n ymddangos bod gennyn ni obshchie interesy - ac mae'n dda gweld rhywun â lefel uchel o Gymraeg yn cyfrannu. Garik 14:41, 18 Medi 2006 (UTC)Ateb

Diolch am y cywiriadau yn Cymraeg Canol! Fydda i'n ymarfer ac yn troi'n well, dw i'n addo :) Edricson 20:15, 19 Medi 2006 (UTC)Ateb

wicipediachwaer golygu

Diolch am y cywiriadau ar Wicipediachwaer - rwyn fwy cysurus fy meddwl a bod ambell un â Chymraeg da ganddo/i yn fodlon cymryd at y gwaith cywiro diddiwedd sydd yma. Lloffiwr 19:05, 1 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Gefeilldrefi Ynys Môn golygu

Gefeilldrefi pa le ar ynys Môn yw'r gefeilldrefi a restrir ar dudalen Ynys Môn? Lloffiwr 09:58, 22 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Yr holl ynys yn hytrach nag unrhyw le penodol. Mae'r 'efeilldref' yn yr Almaen hefyd yn ardal yn hytrach na thref. Daffy 22:50, 22 Hydref 2006 (UTC)Ateb
Iawn. Lloffiwr 23:21, 23 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Brenhinoedd a tsariaid golygu

Sylwais ar fy ffordd i'r dudalen hon dy fod yn bwriadu ehangu rhywfaint ar yr erthyglau ar Tsariaid Rwsia. Tra dy fod wrthi, elli di symud y tudalennau i dudalennau yn cydymffurfio â'r patrwm 'Pedr I, Tsar Rwsia'? Rwyf wedi bod wrthi'n gwneud rhywbeth tebyg gyda rhai o'r brenhinoedd a breninesau - hen waith diflas yw e ond mae'n rhaid ei wneud a gwell ei wneud nawr cyn bod rhagor o deyrnoedd ar Wicipedia i'w symud! Lloffiwr 09:58, 22 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Iawn. Un pwynt bach. Onid 'Harri VIII, Brenin Lloegr' (ag ati) gyda llythyren fawr ar 'Brenin' ddylai hi fod, gan fod 'Brenin Lloegr' yn deitl (fel, dyweder, 'Arlywydd yr Unol Daleithiau'). Daffy 22:50, 22 Hydref 2006 (UTC)Ateb
Cwestiwn da. Nid oedd unrhyw un o'r gramadegau sydd gennyf yn trafod hwn yn uniongyrchol. Rwyf wedi dilyn patrwm John Davies yn Hanes Cymru (e.e. yn y mynegai - 'Edward I, brenin Lloegr'). Yn ôl Y Golygiadur a Gramadeg y Gymraeg byddai dyn yn rhoi priflythyren os yn sôn am 'y Brenin Edward I' (ac fe fyddai'r Y mewn priflythyren pe na bai ar ganol brawddeg). Egluro rhagor amdano mae ychwanegu ', brenin Lloegr' yn hytrach na'i fod yn ran o'r teitl. Fe fyddai dweud rhywbeth fel 'Y Brenin Edward I, brenin Lloegr' siwr o fod yn gywir ond braidd yn hirwyntog! Lloffiwr 23:21, 23 Hydref 2006 (UTC)Ateb
Wedi copïo'r drafodaeth hon (a'i aralleirio ychydig) i Wicipedia:Cymorth iaith#Brenhinoedd y Deyrnas Unedig er mwyn casglu'r drafodaeth gyfan at ei gilydd. Hefyd wedi rhoi taw am y tro ar altro'r brenhinoedd tan bod cytundeb ar y mater (Deb yn meddwl fy mod wedi bod braidd yn fyrbwyll gyda hwn!). Lloffiwr 21:39, 27 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Diolch... golygu

...am gywiro fy nhudalen i ar Goleg y Breninesau, Caergrawnt. O ran diddordeb, dydw i ddim yn credu bod un o'ch cywiriadau chi'n gywir. "Er 1448" sy'n gywir; nid "ers 1448". Gweler er enghraifft [1]. Dylid defnyddio "ers" cyn cyfnod o amser ac "er" cyn pwynt penodol mewn amser. Mae'n rheol sydd wedi mynd yn angof bron erbyn hyn, ond rwy'n gredwr cryf ynddi! Dyna paham newidiais i'r cywiriad yna yn ôl. Gobeithio nad oes ots gennych! Diolch eto. Rhian

Groeg hynafol golygu

Byddwn yn falch o gael eich barn ar y cynnig i newid teitl yr erthygl ar Roeg hynafol. Lloffiwr 19:13, 25 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb

Cirencester or Caerceri? golygu

Please excuse my use of English. Diolch yn fawr.

I created the Caerceri article, now renamed to Cirencester. And I can see you made a comment on the article in January in which you said, 'Caerceri wedi'i symud i Cirencester: Enw traddodiadol Cymraeg'. My infant Welsh is not up to this, would you mind translating the comment for me? Am I right in thinking Cirencester is the name used by modern Welsh speakers so Caerceri should only be used in Old Welsh?

I was born in Cirencester/Caerceri and I'm English, but with an interest in Welsh which should, I believe, be encouraged and used as widely as possible. I know some words but very little grammar.

Please reply here on your own talk page as I only have an account on en.wikipedia.org (chrisjj).

Sorry haven't been on in a while, hence the slow response - I changed Caerceri to Cirencester because Caerceri isn't the usual or traditional Welsh name for the town. I *think* it's a 19th-century made-up form (in as much as it exists at all - where did you find it?). There are a number of these that never entered common usage. The decisive factor is whether it's in common or educated usage today (irrespective of whether it's historically 'correct') and it isn't. Daffy 11:02, 1 Mai 2007 (UTC)Ateb

Fair enough. The name is used in an old ecclesiastical document from St David's Cathedral, I thought I had a photocopy of the relevant part but have mislaid it, it's a mediaeval list of churches and clergy. It's also used by Nennius somewhere ('Life of Merlin' I think), though I haven't looked that up. It seems it was the name of the town before it fell to the Saxons at the Battle of Dyrham and no doubt continued in use on the western side of the Severn for some time afterwards. Sorry not to be more specific, if I turn anything up I'll let you know.--80.6.20.172 00:45, 24 Mai 2007 (UTC)Ateb

Map with missing percentage range golygu

  Hi David, this is the map I was telling you about. It's the range from 37.5 to 50% that's missing. Angr 20:49, 11 Medi 2007 (UTC)Ateb

Global account golygu

Hi Daffy! As a Steward I'm involved in the upcoming unification of all accounts organized by the Wikimedia Foundation (see m:Single User Login finalisation announcement). By looking at your account, I realized that you don't have a global account yet. In order to secure your name, I recommend you to create such account on your own by submitting your password on Special:MergeAccount and unifying your local accounts. If you have any problems with doing that or further questions, please don't hesitate to contact me on my talk page. Cheers, DerHexer (sgwrs) 17:20, 12 Chwefror 2015 (UTC)Ateb