Cymraeg ysgrifenedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
{{Cymraeg}}
[[Delwedd:Beddfaen_Cymraeg_o'r_8fed_ganrif.jpg|left|bawd|[[Tywyn#Beddfaen_Hen_Gymraeg|Arysgrif Hen Gymraeg]] ar faen yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, tua 700]]
Aethpwyd ati i '''ysgrifennu Cymraeg''' yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan, [[Tywyn]] y ceir y geiriau [[Cymraeg]] cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.
==Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig==
Dechreuwyd ar safoni’r iaith ysgrifenedig gan y beirdd.<ref name= OrgraffyrIaithGymraeg > ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'', 1928, Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru </ref>
Ond nid oedd unrhyw gysondeb yn sillafiad y geiriau; e.e. dynodai '''d''' y seiniau sydd heddiw yn cael eu sillafu yn '''d''' ac yn '''dd'''. Ar gyfer y sain a sillefir heddiw yn '''f''' defnyddid '''f''' ar ddiwedd gair, '''u''' neu '''v''' ar ei ddechrau ac '''u''', '''v''', '''fu''', '''fv''', neu '''f''' yn ei ganol. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y [[cynghanedd|gynghanedd gaeth]] wedi llawn ddatblygu ac yn gofyn am gyfatebiaeth seiniau. Roedd hyn yn sbardun i sefydlu iaith farddol safonol a’r symbolau am y seiniau yn fwy diamwys erbyn y bymthegfed ganrif. Yn wir, roedd orgraff y Gymraeg y pryd hynny yn fwy unffurf nac aml i iaith arall yn Ewrop.
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg ceisiodd gramadegwyr ddyfeisio cyfundrefn lythrennau boddhaol.<ref name=BeibliGymru > ''Beibl i Gymru'', Prys Morgan (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988) </ref>
Gwahanol iawn oedd [[Beibl 1588|Beibl]] y Dr [[Esgob William Morgan|William Morgan]] a gyhoeddwyd yn [[1588]] er mai [[y Beibl|Testament Newydd]] a Llyfr Gweddi 1567 Salesbury a'i gydweithwyr oedd sail cyfieithiad William Morgan yntau o'r Testament Newydd a'r Salmau. Defnyddiodd ef orgraff yn seiliedig ar orgraff lenyddol draddodiadol y canu caeth, oedd yn cyfleu ynganiad gair. Ond sillafai rai geiriau yn ôl arfer canu gwerin ac iaith lafar gyfoes. Cyhoeddwyd diwygiad i’r Beibl hwn yn [[1620]] a ddilynai’r un patrwm llythrennu ond a ddefnyddiai eiriau llenyddol yn hytrach na geiriau tafodieithol Beibl Dr Morgan.
Llinell 24:
==Cymraeg llafar ar bapur==
Mae rhai pobl weithiau yn ysgrifennu'r [[Cymraeg llafar|Gymraeg llafar]] neu dafodiaith ar bapur, e.e. i gyfleu sgwrs mewn [[nofel]] a [[drama]] neu mewn llythyr personol. O wneud hyn fe newidir y llafariaid a rhai cytseiniaid yn ôl y dafodiaith. Fe gaiff llythrennau eu newid neu eu hepgor, defnyddir ffurfiau hir y ferf a chystrawen lafar ac ymadroddion a geirfa dafodieithol. Gellir ysgrifennu yn fwy neu'n llai tafodieithol ond o ddechrau ysgrifennu'r iaith lafar ni ellir hepgor gwneud dewisiadau tafodieithol gan fod y llafariaid a ddewisir yn rhwym o fod yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd. Rhaid dewis e.e. rhwng '''nawr/rŵan''' ac '''o'n/we’n/oeddan/oe'n'''. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r dafodiaith honno fe all deall ysgrif ar ffurf lafar neu dafodieithol fod yn anodd. Mae hyn yn cyfyngu ar ba mor ddefnyddiol yw ysgrifennu'r iaith lafar fel ei hyngenir. Enghraifft adnabyddus o [[barddoniaeth|farddoniaeth]] dafodieithol yw'r gerdd 'Pwllderi' gan [[Dewi Emrys]] a gyfansoddwyd yn nhafodiaith [[Sir Benfro]].<ref>Ymddengys y gerdd ''Pwllderi'' gan Dewi Emrys ym Mlodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (''The Oxford Book of Welsh Verse''), gol. [[Thomas Parry]] (Oxford University Press, 1962)</ref>
Cafwyd ymgais yn y 1960au i ddyfeisio ffurf ar Gymraeg lafar safonol y gellid ei harfer yn yr ysgolion a thu hwnt ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg fel ei gilydd. Ceisiwyd hefyd cael hyd i ffordd safonol o ysgrifennu'r iaith lafar newydd hon. Ysgogwyd yr ymgais hwn gan ddarlith radio Ifor Williams yn 1960
Yn sgil Cymraeg Byw datblygwyd dull mwy anffurfiol na Chymraeg lenyddol draddodiadol o ysgrifennu'r Gymraeg, mewn arddull a ddefnyddiai ffurfiau gramadegol yr iaith lafar a geirfa Cymraeg safonol. Cyfaddawd rhwng iaith lafar a Chymraeg ysgrifenedig ffurfiol ydyw. Gelwir yr arddull hon yn Gymraeg Cyfoes neu yn Gymraeg llai ffurfiol. Ymateb ydoedd i'r angen newydd am gyfathrebu ar bapur â'r cyhoedd nad oeddynt i gyd wedi arfer â darllen Cymraeg llenyddol tu allan i'r capel, yn sgil y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelir Cymraeg Cyfoes mewn taflenni gwybodaeth, erthyglau papur newydd ac mewn nofelau. Rhai o nodweddion iaith llai ffurfiol yw defnyddio [[rhagenw|rhagenwau]] wedi [[berf]] neu [[arddodiad]], defnyddio ffurfiau cwmpasog y ferf, gollwng cytsain olaf rhai arddodiaid a berfau, byrhau '''nid''' i '''d''' yn y ffurf 'dydwi ddim' neu 'dwyf i ddim'.
|