Croeso! Deb 10:46, 27 Maw 2005 (UTC)

Diolch. :) Vashti 11:44, 27 Maw 2005 (UTC)

Llanrhymni golygu

Dim problem, Vashti. Ynglŷn â'r ymadrodd "sir hanesyddol," mae'n gwneud synnwyr ar un ystyr, wrth gwrs, ond ar y llaw arall mae'n bosibl ei ddeall mewn sawl ffordd. Does 'na ddim term "swyddogol" fel petai wrth gyfeirio at siroedd y gorffennol. Mae llawer o bobl wedi defnyddio'r ymadrodd "sir draddodiadol" er enghraifft (ond pam "traddodiadol"?). Yn achos siroedd Cymru, maen nhw wedi newid cymaint (enwau a ffiniau weithiau) fel nad yw'r disgrifiad "hanesyddol" neu "draddodiadol" yn gwneud llawer o synnwyr. Mae'n awgrymu yn ogystal mai'r hen siroedd (cyn 1972 (- os dyna'r dyddiad iawn?)) yw'r siroedd "go iawn" mewn cymhariaeth â'r rhai presennol : felly mae term mwy cyffredinol fel "hen" yn fwy niwtral. Yn ogystal nid yw'n eglur pa un o siroedd y gorffennol yw'r un "hanesyddol" (dwi'n byw mewn rhan o Gymru a fu'n rhan o deyrnas Gwynedd, wedyn Sir Gaernarfon, wedyn Gwynedd eto - oedd yn wahanol i'r sir Gwynedd bresennol - ac sy'n rhan o sir Conwy heddiw sydd yn ei thro yn rhan o sir seremonïol Clwyd, am ryw reswm neu'i gilydd!). Mae Sir y Fflint yn bod eto ond gyda ffiniau gwahanol i'r hen Sir y Fflint. Yn ogystal, mae'r gair "hanesyddol" yn awgrymu mae fel 'na y bu pethau erioed, ond wrth gwrs roedd y siroedd a greuwyd ar ôl 1284 yn newydd pryd hynny. A bu newid yn eu ffiniau ar ôl eu creu hefyd.

Dwi'n dechrau mynd rownd mewn cylchoedd! Ydy hynny'n gwneud synnwyr? Mae gan Lloffiwr ddadl debyg ar un o'r tudalennau Sgwrs neu'r Caffi (dwi ddim yn cofio lle yn union rwan). Ond mater o farn a dewis ydyw, yn y bôn : dwi ddim yn meddwl fod gennym ni cyfarwyddiadau pendant eto, er y buasai hynny'n syniad da. Gobeithio fod hynny'n ateb eich cwestiwn. Anatiomaros 19:59, 18 Medi 2007 (UTC)Ateb

Cyfarfod Trefynwy golygu

Bore da. Wyt ti'n dod i'r cyfarfod / hyfforddi yn Nhrefynwy ar yr 20fed o'r mis yma? Cymer olwg ar: wefan WMUK. Gallwn helpu efo'r costau, cofia. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:41, 11 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Naddo, dwi'n tipyn yn hwyr i weld hyn! Diolch am ofyn. Mae rhaid imi cofnodi'n fwy aml. Vashti (sgwrs) 20:05, 8 Awst 2013 (UTC)Ateb