Altneuland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Altneuland.jpg|250px|rightdde|Clawr ''Altneuland'', 1902]]
Mae ''''Altneuland'''' yn nofel iwtopaidd, [[dyfodoliaeth]] gan y newyddiadurwr a'r ymgyrchwydd [[Seioniaeth|Seionistaidd]] Iddewig, [[Theodor Herzl]] (1860-1904), a gyhoeddwyd gyntaf yn yr Almaeneg 1902 yn Leipzig.<ref>"Altneuland" - Cyhoeddiad gyntaf yn Iddeweg - Warsaw, 1902. Kedem Auctions,[https://www.kedem-auctions.com/content/altneuland-first-yiddish-edition-warsaw-1902 2018]</ref> ac fewn i [[Hebraeg]] gan Nahum Sokolow fel '''''Tel Aviv''''' תֵּל־אָבִיב (hefyd Warsaw, 1902),<ref>"Tel Aviv" - First Hebrew Translation of Theodor Herzl's "Altneuland". Kedem Auctions,[https://www.kedem-auctions.com/content/tel-aviv-first-hebrew-translation-theodor-herzls-altneuland 2016]</ref> Cyhoeddwyd fel '''The Old New Land''' yn y Saesneg yn 1902
 
Llinell 9:
 
==Stori==
[[FileDelwedd:Herzl22.jpg|thumbbawd|Theodor Herzl]]
Mae'r nofel yn adrodd hanes Friedrich Löwenberg, deallusyn a chyfreithwir ifanc Iddewig yn Fienna sydd wedi blino â bywyd ffals, llesg Ewrop ac yn penderfynnu ymuno ag uchelwr Prwsiaidd Americanaidd o'r enw Kingscourt sy'n edrych am gwmni gydag ef (gyda'r holl dreuliau wedi eu talu) iddo ymddeol i ynys o bellennig y Môr Tawel (fe'i crybwyllir yn benodol fel rhan o'r [[Ynysoedd Cook]], ger Rarotonga) ym 1902. Mae Löwenberg yn gwerthu ei eiddo ac yn rhoi hynny o arian sydd ganddo yn gardod i Iddew ifanc dlawd, David Littwak a gwrddodd mewn caffe.
 
Llinell 19:
 
===Themâu===
[[FileDelwedd:Altneuland02.gif|thumbbawd|Tudalen o ''Altneuland'']]
Fel pob nofel iwtopaidd, cerbyd yw'r stori ar gyfer cyflwyno agenda wleidyddol a chymdeithasol. Mae'r cymeriadau, at ei gilydd, yn gymeriadau stoc heb fod llawer o ots am eu datblygiad fel bodau llawn. Prif bwrpas y llyfr, fel [[Wythnos yng Nghymru Fydd]] gan [[Islwyn Ffowc Elis]] yw cyflwyno agenda a maniffesto ar ffurf haws a mwy phoblogaidd i'w darllen ar gyfer aelodau'r cyhoedd na fyddai fel rheol yn darllen pamffledi gwleidyddol. Mae ffurf ffuglennol y nofel hefyd yn rhoi rhyddid i'r awdur, yn wahanol i'w waith flaenorol, ''Der Judenstaat'' i beidio gorfod cyfiawnhau pob polisi neu ddyhead. Nofel iwtopaidd yw hi wedi'r cyfan.