Ynni niwclear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
parhau
2
Llinell 18:
Cychwynwyd arbrofi gyda defnyddio ynni niwclear i greu [[trydan]] cyn gynted ag y darganfuwyd yr [[elfennau ymbelydrol]] megis [[radiwm]]. Sylweddolwyd y gallent ryddhau swm anferthol o ynni ond roedd harneisio'r ynni hwn yn dasg anodd iawn; yn wir mynnodd tad [[ffiseg niwclear]] sef [[Ernest Rutherford]] ei bod yn dasg amhosib. Ond ar ddiwedd y 1930au darganfyddwyd theori o'r enw 'ymholltiad niwclear' a sylweddolodd nifer o wyddonwyr gan gynnwys Leo Szilard y byddai 'adwaith gadwynol' (Saesneg: ''chain reaction'') yn hwyluso hyn.
 
Symudodd Fermi a Szilard i'r [[Unold Daleithiau America|Unol Daleithiau]] a sefydlwyd yr adweithydd cyntaf yno, o'r enw Chicago Pile-1 gan lwyddo yn eu hymgais ar 02 Rhagfyr 1942. Daeth y gwaith hwn yn rhan o Brosiect Manhattan a lwyddodd i gynhyrchu [[plwtoniwm]] ar gyfer y ddau fom ar Japan. Felly, o'r cychwyn un, ail beth oedd ynni niwclear - creu bomiau niwclear oedd y bwriad gwreiddiol.
 
Ar 27 Mehefin 1954 agorodd yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn Obninsk- yr atomfa cyntaf (a'r adweithydd cyntaf) i gynhyrchu trydan ar gyfer [[grid cenedlaethol]], gan lwyddo i gynhyrchu tua 5 megawatt o ynni trydanol.
Llinell 26:
 
==Ynni niwclear yng Nghymru==
Bu dwy atomfa yng Nghymru: [[Atomfa'r Wylfa]], Môn ac [[Atomfa Trawsfynydd]]. Yn Ionawr 2008 fe gyhoeddodd Llywodraeth Llundain eu bwriad i ddadwladoli llawer o'r atomfeydd ledled gwledydd Prydain; yn 2009 cyhoeddwyd eu bont yn cefnogi sefydlu 10 o atomfeydd gan gynnwys ail atomfa yn Wylfa. Fodd bynnag, mae'r [[Cynulliad]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yn gwrthwynebu codi atomfa yng Nghymru.
 
==Ynni niwclear drwy'r byd==