Hopcyn ap Tomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen using AWB
→‎Bywgraffiad: Ychwanegwyd cysylltau
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
Llinell 20:
Yn ogystal â chroesawu'r beirdd i'w aelwyd, roedd gan Hopcyn ap Tomas enw fel arbenigwr ar y [[brud]]iau (yn rhyddiaith ac [[canu Darogan|ar gân]]), y storfa o chwedlau a hanes traddodiadol a cherddi proffwydoliaeth am ddyfodol y [[Brythoniaid]], neu'r [[Cymry]]. Yn y cyd-destun hwn gwyddys fod neb llai nag [[Owain Glyn Dŵr]] wedi ymgynghori â Hopcyn, a hynny yn [[1403]] pan fu ar ei anterth.<ref name="Lloyd a Morfydd E 1986">Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), ''Drych yr Oesoedd Canol'' (Caerdydd, 1986).</ref>
 
Ni wyddys pryd fu farw ond roedd yn fyw yn 1403, pan gyfarfu Glyn Dŵr, ac efallai mor ddiweddar â [[1408]].<ref name="Lloyd a Morfydd E 1986"/> Er hynny, dywed yr Athro Gruffudd Aled Williams yn ei gyfrol 'Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr' iddo gael ei ladd ym mrwydr Pwll Melyn, gerllaw Brynbuga yn 1405. Roedd yn frwydr drychinebus i Glyndŵr gyda channoedd o Gymry wedi eu lladd a dienyddiwyd 300 o filwyr Glyndŵr gerbron castell Brynbuga yn dilyn y frwydr.
 
Mae cofeb i Hopcyn ym mharc Ynysforgan, Treforys, Abertawe.
 
==Cyfeiriadau==