Hen Wlad fy Nhadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
adding the 1899 recording, the first known in the Welsh language (mae'n ddrwg gen i, dw i ddim yn siarad Cymraeg yn dda iawn i sgwennu "caption da" am yr anthem - ydach chi'n medru helpu fi?)
capsiwn i'r ffeil sain
Llinell 3:
Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, [[Maesteg]] unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn [[Eisteddfod]] [[Llangollen]], [[1858]], ar ôl i [[Thomas Llewelyn]] o [[Aberdâr]] ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn [[Rhuthun]] y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.
 
[[File:Hen Wlad Fy Nhadau.ogg|Recordiad o ''Hen Wlad Fy Nhadau'', o 1899. Dyma'r recordiad sain cyntaf yn yr iaith Gymraeg hyd y gwyddom.|right|thumb]]
Gwnaed y recordiad [[Cymraeg]] cyntaf, sydd yn hysbys, yn [[Llundain]] ar 11 [[Mawrth]] [[1899]], pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]].