Arthur Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: it:Arthur Griffith
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Arthur_Griffith_(1871-1922).jpg|bawd|250px|Arthur Griffith]]
 
Roedd '''Arthur Griffith''' ([[Gwyddeleg]]: Art Ó Gríobhtha; [[31 Mawrth]], [[1871]] - [[12 Awst]], [[1922]]) oedd sylfaenydd ac arweinydd cyntaf [[Sinn Féin]]. Roedd yn Arlywydd [[Dáil Éireann]] o Ionawr hyd Awst, ac yn bennaeth y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig a arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon yn [[1921]].
 
Ganed Griffith yn [[Dulyn|Nulyn]], o dras Cymreig. Bu'n gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno a'r [[Cynghrair Gaeleg]] oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r ''[[Irish Republican Brotherhood]]'' (IRB). Bu yn Ne Affica am gyfnod, ac wedi dychwelyd i Ddulyn roedd yn o'r rhai a sefydlodd y paourpapur wythnosol ''[[United Irishman]]'', Yn 1910, priododd ei wraig, Maud; cawsant fab a merch.
 
Erbyn hyn roedd Griffith yn feirniadol iawn o'r [[Y Blaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] a'i thacteg o gydweithio a'r Blaid Ryddfrydol Brydeinig. Yn 1900, sefydlodd [[Cumann na nGaedhael]] ac yn 1903 gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Yn 1905, ymunodd hwn a chyrff eraill i ffurfio Cynghrair [[Sinn Féin]] ("Ni'n hunain"). Roedd yn ceisio cyfuno agweddau ar bolisiau [[Charles Stewart Parnell]] gyda'r traddodiad mwy milwriaethus. Polisi Sinn Féin oedd y byddai unrhyw aelodau a etholid i'r senedd yn Llundain yn gwrthod cymeryd eu seddau.