Gruffudd ab yr Ynad Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Ei waith barddonol: galargan anhygoel!
Llinell 9:
Mae'r seithfed awdl yn [[marwnad|farwnad]] i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw [[Afon Irfon]] ar [[11 Rhagfyr]], [[1282]]). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng [[Castell y Bere|Nghastell y Bere]], [[Meirionnydd]], y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.
 
Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chatholigChatholig ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:
 
:'Oerfelawg calon dan fron o fraw,
Llinell 15:
:Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
:Poni welwch chwi'r deri yn ymdaraw?
:Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw—merwinaw'r tir?
:Poni welwch chwi'r Gwir yn ymgyweiriaw?
:Poni welwch chwi'r haul yn hwylaw—hwylaw'r awyr?
:Poni welwch chwi'r sŷr wedi r'r syrthiaw?
:Pani chredwch chwi i Dduw, ddynaddion ynfyd?
:Pani welwch chwi'r byd wedi r'r bydiaw?'
 
Yn ddieithriad, mae beirniaid llenyddol yn cydnabod y gerdd hon fel un o orchestweithiau pennaf y beirdd Cymraeg ac un o gerddi mawr y byd. Er bod strwythrstrwythur a mydr y gerdd yn gymhleth, mae'r iaith yn syml a'r mynegiant yn blaen ac mae'n un o'r cerddi hawsaf i'w deall o blith holl gerddi'r Gogynfeirdd gan y darllenydd cyffredin heddiw.
 
==Llyfryddiaeth==