'''Undeb yr Annibynnwyr''' yw'r Undeb Llywodraethol sy'n llywio capeli'r Annibynnwyr, i raddau.
Mae tua 450 o eglwysi Annibynnol yn aelodau o Undeb yr [[Annibynwyr]] Cymraeg, y rhan fwyaf o ddigon yn byw eu bywyd drwy’r iaith [[Cymraeg|Gymraeg]].
{{stwbyn}}
Mae 16 o gyfundebau, gan gynnwys y ddau leiaf, [[Lerpwl]] a [[Llundain]].
Sefydlwyd yr eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru yn [[Llanfaches]] yn [[1639]] yn y traddodiad [[Piwritaniaeth|Piwritanaidd]].
Mae’r Undeb wedi mynegi safbwyntiau radical ar faterion Cymreig a rhyngwladol yn gyson. Er enghraifft, pasiwyd penderfyniadau pasiffistaidd lawer tro, ac mor gynnar â [[1950]] galwyd am [[Senedd i Gymru]].
Gweithredir yn bennaf drwy Gyngor yr Undeb, a’i chwe Adran – Cenhadaeth, Ieuenctid, Cyllid, Eglwysi a’u Gweinidogaeth, Addysg a Chyfathrebu, Dinasyddiaeth Gristnogol.
Mae’r Pwyllgor Gweinyddol yn gweithredu fel pwyllgor gwaith ac yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn fel rheol, i drafod ystod eang o bynciau; mae’n atebol i’r Cyfarfodydd Blynyddol.
Cynhelir y Cyfarfodydd Blynyddol yn yr haf dros dri diwrnod.
Dan olygyddiaeth y Parchg Hywel Wyn Richards cyhoeddir y papur, [[Y Tyst]], yn wythnosol.
Hanfod Annibyniaeth yw bod yr awdurdod ar bob penderfyniad yn aros gyda’r gynulleidfa o aelodau cyflawn, a hithau yn atebol i [[Iesu Grist]] a heb ei rheoli gan gorff allanol.
Tasg yr Undeb yw darparu a chynghori ac ysbrydoli, a bod yno at wasanaeth yr eglwysi yn ôl eu dymuniad.
{{Eginyn}}
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
|