Mausoleum Halicarnassus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
mater o farn a chwaeth bersonol
Llinell 2:
Cofadail mawreddog yw'r ''Mausoleum'' (Groeg ''Μαυσολειον'') a godwyd yn ninas [[Halicarnassos]] yn nhalaith [[Caria]] yn [[Asia Leiaf]] er anrhydedd y brenin [[Mausolus]] yn [[352 C.C.]] gan ei wraig [[Artemisia]]. Mae'n un o [[Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd]].
 
O ran ei adeiladwaith roedd iddo is-strwythr hirsgwar mawr, 440 troedfedd o gwmpas, wedi ei amgylchynu gan 36 [[Colofnau Groegaidd|colofn]], ac wedi ei goroni gan byramid 24 gradd gyda ''[[quadriga]]'' (cerbyd pedwar march) ar ei gopa, yn ôl [[Pliny'r Hynaf]] (''[[Naturalis Historia]]'' xxxvi, 30-31). Uchder y cofadail oedd 140 troedfedd ac roedd wedi'i baentio'n hyfryd â phob lliw dan haul. [[Satyrus]] a [[Pythius]] oedd y penseiri a gwaith y cerflunwyr enwog Scopas, [[Bryaxis]], Timotheus a [[Leochares]] oedd y cerfluniau ar hyd ei ochrau.
 
Roedd y Mausoleum mewn cyflwr da hyd at y [[12fed ganrif]] O.C. ond dirywio fu ei hanes ar ôl hynny. Daeth [[Marchogion St John]] i'r ardal ar ddiwedd y [[14eg ganrif]] a dechrau ei ddefnyddio fel chwarel. Yn goron ar y fandaliaeth hon, toddwyd y cerfluniau marmor i wneud gwyngalch ar gyfer eu caer yn 1522. Darganfuwyd olion yr adeilad o'r newydd yn 1857 a symudwyd drylliau o'r cerfluniau i'r [[Yr Amgueddfa Brydeinig|Amgueddfa Brydeinig]]. Mae gwaith archaeolegol diweddar wedi datguddio safle'r Mausoleum ond ychydig sy'n aros ohono.