Adeileddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
B Manion
Llinell 1:
[[Image:1931. Дом культуры имени С. М. Зуева.jpg|bawd|350px|'Tŷ Diwylliant' a enwyd ar ôl SM Zueva]]
[[Delwedd:Plakat mayakowski gross.jpg|bawd|dreta|250px|Cartell constructivista de [[Maiakowski]]]]
Roedd '''Lluniadaeth''' (Constructivism) yn athroniaeth gelfyddydol a phensaernïol a ddechreuodd yn [[Rwsia]] gan [[Vladimir Tatlin]] yn 1913. Roedd yr athroniaeth yn ymwrthod â'r syniad o gelf fel gweithredol arwahan ac hunangynhwysol ac bod iddo, yn hytrach, rôl mewn llunio cymdeithasol. Roedd y mudiad o blaid celf fel gweithred at bwrpas cymdeithasol. Roedd yn fudiad [[Avant-garde]] a gafodd ddylanwad fawr ar mudiadau celf y 20g gan ddylanwadu symudiadau fel [[Bauhaus]] a [[De Stijl]]. Roedd ei ddylanwad yn eang, gydag effaith dwys ym maes [[pensaernïaeth]], [[cerflun|cerflunio]]io, [[dylunio graffig]], dylunio diwydiannol, [[theatr]], [[ffilm]], [[dawns]], [[ffasiwn]] ac, i rhyw raddau, [[cerddoriaeth]].
 
==Dyladwadau==
[[Delwedd:Tatlin's Tower maket 1919 year.jpg|bawd|Tŵr Tatlin, macet, 1919]]
Ysbrydolwyd y mudiad gan [[Ciwbiaeth]] [[Pablo Picasso]] a'r artist Vladimir Tatlin a ddechreuodd gyda creu tri-dimensiwn i'w gelf yn 1910. [ 2 ] Roedd Tatlin yn lafar dros ddefnyddio deunydd cymdeithas megis gwyr, pren a metal yn ei waith a ffocysu ar texture. Roedd hefyd yn rhoi pwys mawr ar hunan-gynhaliaeth ei waith gan bwysleisio pob rhan fel uned arwahân.
 
Ddaeth y mudiad i'r amlwg yn Rwsia a daeth yn arbennig o bresennol ar ôl Chwyldro Hydref 1917. Nid oedd yn esgus bod yn arddull artistig ond yn hytrach fynegiant o argyhoeddiad gwleidyddol, [[Marcsiaeth]] at wasanaeth y chwyldro a'r bobl. Honwyd y dylid dileu'r gwahaniaeth rhwng y celfyddydau a chreu aesthetig oedd yn adlewyrchiad o amser mecanyddol. Daeth arlunio a cherflunio yn rhan o'r un broses a greu a'u gweld fel adeiladwaith nid cynrychiolaeth o rhywbeth yn yr modd ag yr oedd adeiladu gan ddefnyddio'r un broses a phensaernïaeth. Derbyniodd y mudiad pob fath o dechnegau a deunydd diwydiannol. Defnyddir y term hyd heddiw yn aml wrth ddisgrifio celf fodern ac i wahaniaethu rhwng celf bur a chelf a ddefnyddir at bwrpas cymdeithasol. Defnyddiwyd y term 'celf lluniadol' (construcion art) gyntaf gan [[Kasimir Malevich]] wrth ddisgrifio gwaith [[Alexander Rodchenko]] yn 1917.
Llinell 27:
 
==Llunidaeth Ryngwladol==
Datblygodd lluniadaeth ryngwladol yn ystod yr 1920au, a sefydlwyd gan [[El Lisitsky]], [[Theo van Doesburg]] a [[Hans Richter]] mewn cynhadledd yn [[Düsseldorf]] in 1922.<ref name="ne.se">[[Nationalencyklopedin]], [http://www.ne.se/lang/konstruktivism/229296?i_h_word=konstruktivism+konst]</ref> Berlin oedd canolfan y mudiad ar adeg pan allau'r Dwyrain a'r Gorllewin gwrdd.<ref name="ne.se">[[Nationalencyklopedin]], [http://www.ne.se/lang/konstruktivism/229296?i_h_word=konstruktivism+konst]</ref>
 
Roedd Lluniadaeth Ryngwladol yn ganlyniad y mudiad Sofietaidd a'r mudiadau blaenorol Ewropeaidd. Dau o'i ddylanwadau mwyaf oedd [[Dada]] gyda'i gwrthddweud o gysyniadau traddodiadol o gelf a'r mudiad [[Bauhaus]] newydd oedd yn tyfu'n sydyn dan arweiniad [[Walter Gropius]] ers 1919.
 
Roedd Lluniadaeth Ryngwladol arwahân i'r ddelfryd Sofietaidd ac yn fwy ysbrydol a llai gwleidyddol. Daeth yn ddyladwadodd ar fudiad [[De Stijl]] a sefydlwyd gan [[Theo van Doesburg]] a [[Piet Mondrian]] yn 1917. Lledaenwyd nifer o synaidau Lluniadaeth drwy gylchgrawn De Stijl.