Golosg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
 
[[Delwedd:Charcoal2.jpg|bawd|300px|Golosg sych]]
Gwaddod [[carbon]] du ac ysgafn sy'n cael ei gynhyrchu trwy dynnu ac [[Carbon|elfennau]] anweddol eraill o ddeunyddiau [[Anifail|anifeiliaid]] a [[Planhigyn|phlanhigion]] yw '''golosg'''. Mae nifer o enwau eraill Cymraeg iddo, yn cynnwys '''dylosg''', '''mallwydd''', '''marworlo''', '''coedlo''', '''llosglo''', '''cols''', '''sercol''' a '''siarcol'''.<ref>{{Cite web|url=http://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html|title=Geiriadur Prifysgol Cymru|date=|access-date=21 Mai 2019|website=Geiriadur Prifysgol Cymru|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Fel arfer, cynhyrchir golosg trwy pyrolysis araf - gwresogi [[pren]] neu ddeunyddiau organig eraill yn absenoldeb [[ocsigen]]. Gelwir y broses hon yn llosgi golosg. Mae'r golosg gorffenedig yn cynnwys carbon yn bennaf.
 
Y fantais o ddefnyddio golosg yn hytrach na llosgi coed yn unig yw'r ffaith nad yw'n cynnwys dŵr a chydrannau eraill. Mae hyn yn caniatáu i siarcol losgi i dymheredd uwch, gan ryddhau ychydig iawn o fwg (mae pren arferol yn rhoi llawer o stêm, anweddolion organig, a gronynnau carbon heb eu llosgi - huddygl - yn ei fwg).