Carol plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Natur a hanes: dolen Eos Gwynfa
Llinell 3:
== Natur a hanes ==
[[Delwedd:Tivedshambo 2007-08-27 Llanymawddwy.jpg|thumb|300px|Eglwys Sant [[Tydecho]], yn [[Llanymawddwy]], lle mae traddodiad canu'r Plygain yn parhau.]]
Yr oedd carolau plygain yn arbennig o boblogaidd yn yr [[17eg ganrif]] a pharhaodd y traddodiad o'u cyfansoddi a'u canu hyd ganol y [[19eg ganrif]]. Cyhoeddodd [[Charles Edwards]] ([[1628]] - wedi [[1691]]) lyfr o garolau o'r enw: ''Llyfr Plygain gydag Almanac'' yn [[1682]]. Meistr pennaf y carol plygain oedd y bardd [[Huw Morys (Eos Ceiriog)]] (1622-1709). Yn y 18fed ganrif ceir nifer o garolau plygain gan [[Jonathan Huws]] yn ei lyfr ''Bardd y Byrddau'', e.e. 'Carol Plygain ar Gwêl yr Adeilad...'. Un o gyfansoddwyr gorau y carolau plygain yn y 19eg ganrif oedd y llenor a golygydd [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].
 
Cerddi crefyddol ac athroniaethol eu naws oedd y carolau hyn, ond roedd eu gwreiddiau yng [[canu gwerin|nghanu gwerin]] poblogaidd eu dydd. Mae eu [[mydr]] yn aml yn gymhleth ac fe'u cenid ar geinciau [[baled]]i poblogaidd. Fel arfer, mae'r carol plygain yn eithaf hir: dros ugain neu ragor o benillion. Ceir hefyd gyfeiriad at groeshoelio Crist mewn llawer ohonynt. Fe'u cenir yn ddigyfeiliant gan unawdwyr neu bartïon. Arferid cynnau llawer o ganhwyllau drwy'r eglwys, ac mewn un yn Sir y Fflint llosgwyd yr eglwys i lawr gan y canhwyllau. Yn [[Llanfyllin]], gwnaed canhwyllau'r plygain gan y canhwyllwr lleol. Mae'n siwr bod arwyddocad ysbrydol i oleuo canhwyllau fel hyn ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni Duw i'r byd. Brodor o ardal Llanfyllin a [[Llanfihangel-yng-Ngwynfa]] oedd y bardd [[Thomas Williams (Eos Gwynfa)]] (c.1769-1848), a gyhoeddodd sawl gyfrol o garolau a cherddi plygain.
 
Ym [[Maentwrog]] caed pregeth yn y gwasanaeth - un fer iawn. Y canu carolau, fodd bynnag yw'r cynnwys yn y rhan fwyaf o eglwysi. Mewn lleoedd eraill, fel [[Llanfair Dyffryn Clwyd]], gwasanaethwyd y [[Cymun]] yn ystod y blygain. Yn aml gelwid y garol ag enw fferm y teulu oedd yn ei chanu: 'Carol Wil Cae Coch' er enghraifft.
 
Cyhoeddodd [[Charles Edwards]] ([[1628]] - wedi [[1691]]) lyfr o garolau o'r enw: ''Llyfr Plygain gydag Almanac'' yn [[1682]].
 
== Canu plygain heddiw ==